Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 14

14
Paul a Barnabas yn Iconium
1Yn Iconium eto, aethant#14:1 Neu, aethant ynghyd. i mewn i synagog yr Iddewon a llefaru yn y fath fodd nes i liaws mawr o Iddewon a Groegiaid gredu. 2Ond dyma'r Iddewon a wrthododd gredu yn cyffroi meddyliau'r Cenhedloedd, ac yn eu gwyrdroi yn erbyn y credinwyr. 3Felly treuliasant gryn amser yn llefaru'n hy yn yr Arglwydd, a thystiodd yntau i air ei ras trwy beri gwneud arwyddion a rhyfeddodau trwyddynt hwy. 4Rhannwyd pobl y ddinas; yr oedd rhai gyda'r Iddewon, a rhai gyda'r apostolion. 5Pan wnaed cynnig gan y Cenhedloedd a'r Iddewon, ynghyd â'u harweinwyr, i'w cam-drin a'u llabyddio, 6wedi cael achlust o'r peth, ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd Lycaonia, ac i'r wlad o amgylch, 7ac yno yr oeddent yn cyhoeddi'r newydd da.
Paul a Barnabas yn Lystra
8Ac yn Lystra yr oedd yn eistedd ryw ddyn â'i draed yn ddiffrwyth, un cloff o'i enedigaeth, nad oedd erioed wedi cerdded. 9Yr oedd hwn yn gwrando ar Paul yn llefaru. Syllodd yntau arno, a gwelodd fod ganddo ffydd i gael ei iacháu, 10a dywedodd â llais uchel, “Saf yn unionsyth ar dy draed.” Neidiodd yntau i fyny a dechrau cerdded. 11Pan welodd y tyrfaoedd yr hyn yr oedd Paul wedi ei wneud, gwaeddasant yn iaith Lycaonia: “Y duwiau a ddaeth i lawr atom ar lun dynion”; 12a galwasant Barnabas yn Zeus, a Paul yn Hermes, gan mai ef oedd y siaradwr blaenaf. 13Yr oedd teml Zeus y tu allan i'r ddinas, a daeth yr offeiriad â theirw a thorchau at y pyrth gan fwriadu offrymu aberth gyda'r tyrfaoedd. 14Pan glywodd yr apostolion, Barnabas a Paul, am hyn, rhwygasant eu dillad, a neidio allan i blith y dyrfa dan weiddi, 15“Ddynion, pam yr ydych yn gwneud hyn? Bodau dynol ydym ninnau, o'r un anian â chwi. Cyhoeddi newydd da i chwi yr ydym, i'ch troi oddi wrth y pethau ofer hyn at y Duw byw a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phopeth sydd ynddynt. 16Yn yr oesoedd a fu, goddefodd ef i'r holl genhedloedd rodio yn eu ffyrdd eu hunain. 17Ac eto ni adawodd ei hun heb dyst, gan iddo gyfrannu bendithion: rhoi glaw ichwi o'r nef, a thymhorau ffrwythlon, a chyflawnder calon o luniaeth a llawenydd.” 18Ond er dweud hyn, o'r braidd yr ataliasant y tyrfaoedd rhag offrymu aberth iddynt.
19Daeth Iddewon yno o Antiochia ac Iconium; ac wedi iddynt berswadio'r tyrfaoedd, lluchiasant gerrig at Paul, a'i lusgo allan o'r ddinas, gan dybio ei fod wedi marw. 20Ond ffurfiodd y disgyblion gylch o'i gwmpas, a chododd yntau a mynd i mewn i'r ddinas. Trannoeth, aeth ymaith gyda Barnabas i Derbe.
Dychwelyd i Antiochia yn Syria
21Buont yn cyhoeddi'r newydd da i'r ddinas honno, ac wedi gwneud disgyblion lawer, dychwelsant i Lystra ac i Iconium ac i Antiochia, 22a chadarnhau eneidiau'r disgyblion a'u hannog i lynu wrth y ffydd, gan ddweud, “Trwy lawer o gyfyngderau yr ydym i fynd i mewn i deyrnas Dduw.” 23Penodasant iddynt henuriaid ym mhob eglwys, a'u cyflwyno, ar ôl gweddïo ac ymprydio, i'r Arglwydd yr oeddent wedi credu ynddo. 24Wedi iddynt deithio trwy Pisidia, daethant i Pamffylia; 25ac wedi llefaru'r gair yn Perga, aethant i lawr i Atalia, 26ac oddi yno hwyliasant i Antiochia, i'r fan lle'r oeddent wedi eu cyflwyno i ras Duw at y gwaith yr oeddent wedi ei gyflawni. 27Wedi iddynt gyrraedd, cynullasant yr eglwys ynghyd ac adrodd gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud gyda hwy, ac fel yr oedd wedi agor drws ffydd i'r Cenhedloedd. 28A threuliasant gryn dipyn o amser gyda'r disgyblion.

Dewis Presennol:

Actau 14: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda