Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 17

17
Y Cyffro yn Thesalonica
1Aethant ar hyd y ffordd trwy Amffipolis ac Apolonia, a chyrraedd Thesalonica, lle yr oedd synagog gan yr Iddewon. 2Ac yn ôl ei arfer aeth Paul i mewn atynt, ac am dri Saboth bu'n ymresymu â hwy ar sail yr Ysgrythurau, 3gan esbonio a phrofi fod yn rhaid i'r Meseia ddioddef a chyfodi oddi wrth y meirw. Byddai'n dweud, “Hwn yw'r Meseia—Iesu, yr hwn yr wyf fi'n ei gyhoeddi i chwi.” 4Cafodd rhai ohonynt eu hargyhoeddi, ac ymuno â Paul a Silas; ac felly hefyd y gwnaeth lliaws mawr o'r Groegiaid oedd yn addoli Duw, ac nid ychydig o'r gwragedd blaenaf. 5Ond cenfigennodd yr Iddewon, ac wedi cael gafael ar rai dihirod o blith segurwyr y sgwâr, a'u casglu'n dorf, dechreusant greu terfysg yn y ddinas. Ymosodasant ar dŷ Jason, a cheisio dod â Paul a Silas allan gerbron y dinasyddion. 6Ond wedi methu dod o hyd iddynt hwy, llusgasant Jason a rhai credinwyr o flaen llywodraethwyr y ddinas, gan weiddi, “Y mae aflonyddwyr yr Ymerodraeth wedi dod yma hefyd, 7ac y mae Jason wedi rhoi croeso iddynt; y mae'r bobl hyn i gyd yn troseddu yn erbyn ordeiniadau Cesar trwy ddweud fod brenin arall, sef Iesu.” 8Cyffrowyd y dyrfa a'r llywodraethwyr pan glywsant hyn, 9ond ar ôl derbyn gwarant gan Jason a'r lleill, gollyngasant hwy'n rhydd.
Yr Apostolion yn Berea
10Cyn gynted ag iddi nosi, anfonodd y credinwyr Paul a Silas i Berea, ac wedi iddynt gyrraedd aethant i synagog yr Iddewon. 11Yr oedd y rhain yn fwy eangfrydig na'r rhai yn Thesalonica, gan iddynt dderbyn y gair â phob eiddgarwch, gan chwilio'r Ysgrythurau beunydd i weld a oedd pethau fel yr oeddent hwy yn dweud. 12Gan hynny, credodd llawer ohonynt, ac nid ychydig o'r Groegiaid, yn wragedd bonheddig ac yn wŷr. 13Ond pan ddaeth Iddewon Thesalonica i wybod fod gair Duw wedi ei gyhoeddi gan Paul yn Berea hefyd, daethant i godi terfysg a chythryblu'r tyrfaoedd yno hefyd. 14Yna anfonodd y credinwyr Paul ymaith yn ddi-oed i fynd hyd at y môr, ond arhosodd Silas a Timotheus yno. 15Daeth hebryngwyr Paul ag ef i Athen, ac aethant oddi yno gyda gorchymyn i Silas a Timotheus ddod ato cyn gynted ag y gallent.
Paul yn Athen
16Tra oedd Paul yn eu disgwyl yn Athen, cythruddwyd ei ysbryd ynddo wrth weld y ddinas yn llawn eilunod. 17Gan hynny, ymresymodd yn y synagog â'r Iddewon ac â'r rhai oedd yn addoli Duw, ac yn y sgwâr bob dydd â phwy bynnag a fyddai yno. 18Yr oedd rhai o'r athronwyr, yn Epicwriaid a Stoiciaid, yn dadlau ag ef hefyd, a rhai'n dweud, “Beth yn y byd y mae'r clebryn yma yn mynnu ei ddweud?” Meddai eraill, “Y mae'n ymddangos ei fod yn cyhoeddi duwiau dieithr.” Oherwydd cyhoeddi'r newydd da am Iesu a'r atgyfodiad yr oedd. 19Cymerasant afael ynddo, a mynd ag ef at yr Areopagus, gan ddweud, “A gawn ni wybod beth yw'r ddysgeidiaeth newydd yma a draethir gennyt ti? 20Oherwydd yr wyt yn dwyn i'n clyw ni ryw syniadau dieithr. Yr ydym yn dymuno cael gwybod, felly, beth yw ystyr y pethau hyn.” 21Nid oedd gan neb o'r Atheniaid, na'r dieithriaid oedd ar ymweliad â'r lle, amser i ddim arall ond i adrodd neu glywed y peth diweddaraf.
22Safodd Paul yng nghanol yr Areopagus, ac meddai: “Bobl Athen, yr wyf yn gweld ar bob llaw eich bod yn dra chrefyddgar. 23Oherwydd wrth fynd o gwmpas ac edrych ar eich pethau cysegredig, cefais yn eu plith allor ac arni'n ysgrifenedig, ‘I Dduw nid adwaenir’. Yr hyn, ynteu, yr ydych chwi'n ei addoli heb ei adnabod, dyna'r hyn yr wyf fi'n ei gyhoeddi i chwi. 24Y Duw a wnaeth y byd a phopeth sydd ynddo, nid yw ef, ac yntau'n Arglwydd nef a daear, yn preswylio mewn temlau o waith llaw. 25Ni wasanaethir ef chwaith â dwylo dynol, fel pe bai arno angen rhywbeth, gan mai ef ei hun sy'n rhoi i bawb fywyd ac anadl a'r cwbl oll. 26Gwnaeth ef hefyd o un dyn#17:26 Neu, o un cyff. Yn ôl darlleniad arall, o un gwaed. yr holl genhedloedd, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, gan osod cyfnodau penodedig a therfynau eu preswylfod. 27Yr oeddent i geisio Duw, yn y gobaith y gallent rywfodd ymbalfalu amdano a'i ddarganfod; ac eto nid yw ef nepell oddi wrth yr un ohonom.
28“ ‘Oherwydd ynddo ef yr ydym yn byw ac yn symud ac yn bod’,
“fel, yn wir, y dywedodd rhai o'ch beirdd chwi:
“ ‘Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.’
29“Os ydym ni, felly, yn hiliogaeth Duw, ni ddylem dybio fod y Duwdod yn debyg i aur neu arian neu faen, gwaith nadd celfyddyd a dychymyg dyn. 30Yn wir, edrychodd Duw heibio i amserau anwybodaeth; ond yn awr y mae'n gorchymyn i bawb ym mhob man edifarhau, 31oblegid gosododd ddiwrnod pryd y bydd yn barnu'r byd mewn cyfiawnder, trwy ŵr a benododd, ac fe roes sicrwydd o hyn i bawb trwy ei atgyfodi ef oddi wrth y meirw.”
32Pan glywsant am atgyfodiad y meirw, dechreuodd rhai wawdio, ond dywedodd eraill, “Cawn dy wrando ar y pwnc hwn rywdro eto.” 33Felly aeth Paul allan o'u mysg. 34Ond ymlynodd rhai pobl wrtho, a chredu, ac yn eu plith Dionysius, aelod o lys yr Areopagus, a gwraig o'r enw Damaris, ac eraill gyda hwy.

Dewis Presennol:

Actau 17: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda