Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Exodus 11

11
Darogan Marwolaeth y Cyntafanedig
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Yr wyf am ddwyn un pla arall ar Pharo ac ar yr Aifft; ar ôl hynny, bydd yn eich gollwng yn rhydd; a phan fydd yn eich rhyddhau, bydd yn eich gyrru oddi yma'n llwyr. 2Dywed wrth y bobl am i bob gŵr a gwraig ohonynt gymryd benthyg tlysau arian a thlysau aur gan ei gymydog.” 3Gwnaeth yr ARGLWYDD i'r bobl gael ffafr gan yr Eifftiaid. Yr oedd Moses yn ddyn pwysig iawn yng ngwlad yr Aifft, yng ngolwg gweision Pharo ac yng ngolwg y bobl.
4Yna dywedodd Moses, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Tua hanner nos, byddaf yn mynd allan trwy ganol yr Eifftiaid, 5a bydd farw pob cyntafanedig yng ngwlad yr Aifft, o gyntafanedig Pharo, sy'n eistedd ar ei orsedd, hyd gyntafanedig y forwyn sydd wrth y felin, a chyntafanedig pob anifail hefyd. 6Bydd llefain mawr trwy holl wlad yr Aifft, mwy nag a fu o'r blaen nac a welir eto. 7Ond ymhlith yr Israeliaid, ni bydd hyd yn oed gi yn ysgyrnygu ei ddannedd ar ddyn nac anifail; trwy hynny fe fyddwch yn gwybod bod yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng yr Aifft ac Israel. 8Fe ddaw pob un o'th weision i lawr ataf ac ymgrymu o'm blaen a dweud, ‘Dos allan, ti a phawb sy'n dy ganlyn.’ Yna fe af finnau allan.” Aeth o ŵydd Pharo wedi ei gythruddo.
9Yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Ni fydd Pharo'n gwrando arnoch; felly byddaf yn amlhau fy rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft.” 10Gwnaeth Moses ac Aaron yr holl ryfeddodau hyn yng ngŵydd Pharo, ond caledodd yr ARGLWYDD galon Pharo fel na fynnai ryddhau'r Israeliaid o'i wlad.

Dewis Presennol:

Exodus 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda