Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 48

48
Jacob yn Bendithio Effraim a Manasse
1Ar ôl hyn dywedwyd wrth Joseff, “Y mae dy dad yn wael.” Felly cymerodd gydag ef ei ddau fab, Manasse ac Effraim, 2a phan ddywedwyd wrth Jacob, “Y mae dy fab Joseff wedi dod atat”, cafodd Israel nerth i godi ar ei eistedd yn y gwely. 3Yna dywedodd Jacob wrth Joseff, “Ymddangosodd Duw Hollalluog i mi yn Lus, yng ngwlad Canaan, a'm bendithio 4a dweud wrthyf, ‘Fe'th wnaf di'n ffrwythlon a lluosog, yn gynulliad o bobloedd, a rhof y wlad hon yn etifeddiaeth dragwyddol i'th ddisgynyddion ar dy ôl.’ 5Ac yn awr, fi piau dy ddau fab, a anwyd i ti yng ngwlad yr Aifft cyn i mi ddod atat i'r Aifft. Fi piau Effraim a Manasse; byddant fel Reuben a Simeon i mi. 6Ti fydd piau'r plant a genhedli ar eu hôl, ond dan enw eu brodyr y byddant yn etifeddu. 7Oherwydd fel yr oeddwn yn dod o Padan, bu Rachel farw ar y daith yng ngwlad Canaan pan oedd eto dipyn o ffordd i Effrath, a chleddais hi yno ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem.”
8Pan welodd Israel feibion Joseff, gofynnodd, “Pwy yw'r rhain?” 9Ac atebodd Joseff ei dad, “Dyma fy meibion a roddodd Duw imi yma.” Dywedodd yntau, “Tyrd â hwy ataf i mi eu bendithio.” 10Yr oedd llygaid Israel wedi pylu gan henaint, ac ni allai weld. Felly aeth Joseff â hwy yn nes at ei dad, a chusanodd yntau hwy a'u cofleidio. 11A dywedodd Israel wrth Joseff, “Ni feddyliais y cawn weld dy wyneb byth eto, a dyma Dduw wedi peri imi weld dy blant hefyd.” 12Derbyniodd Joseff hwy oddi ar lin Jacob, ac ymgrymodd i'r llawr. 13Yna cymerodd Joseff y ddau ohonynt, Effraim yn ei law dde i fod ar law chwith Israel, a Manasse yn ei law chwith i fod ar law dde Israel, a daeth â hwy ato. 14Estynnodd Israel ei law dde a'i gosod ar ben Effraim, yr ieuengaf, a'i law chwith ar ben Manasse, trwy groesi ei ddwylo, er mai Manasse oedd yr hynaf. 15Yna bendithiodd Joseff a dweud:
“Y Duw y rhodiodd fy nhadau Abraham ac Isaac o'i flaen,
y Duw a fu'n fugail imi trwy fy mywyd hyd heddiw,
16yr angel a'm gwaredodd rhag pob drwg,
bydded iddo ef fendithio'r llanciau hyn.
Bydded arnynt fy enw i ac enw fy nhadau, Abraham ac Isaac,
a boed iddynt gynyddu yn niferus ar y ddaear.”
17Gwelodd Joseff fod ei dad wedi gosod ei law dde ar ben Effraim, ac nid oedd yn hoffi hynny. Gafaelodd yn llaw ei dad i'w symud oddi ar ben Effraim a'i gosod ar ben Manasse, 18ac meddai Joseff wrth ei dad, “Nid fel yna, fy nhad; hwn yw'r cyntafanedig, gosod dy law dde ar ei ben ef.” 19Ond gwrthododd ei dad gan ddweud, “Mi wn i, fy mab, mi wn i. Bydd yntau hefyd yn bobl, a bydd yn fawr; ond bydd ei frawd ieuengaf yn fwy nag ef, a bydd ei ddisgynyddion yn lliaws o genhedloedd.” 20Felly bendithiodd hwy y dydd hwnnw a dweud:
“Ynoch chwi#48:20 Felly Fersiynau. Hebraeg, Ynot ti. bydd Israel yn bendithio ac yn dweud,
‘Gwnaed Duw di fel Effraim a Manasse.’ ”
Felly gosododd Effraim o flaen Manasse. 21Yna dywedodd Israel wrth Joseff, “Yr wyf yn marw, ond bydd Duw gyda chwi, ac fe'ch dychwel i dir eich hynafiaid. 22A rhoddaf i ti yn hytrach nag i'th frodyr gefnen o dir#48:22 Hebraeg, Sichem. a gymerais oddi ar yr Amoriaid â'm cleddyf ac â'm bwa.”

Dewis Presennol:

Genesis 48: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd