Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 13

13
Barn Derfynol ar Israel
1Pan lefarai Effraim byddai dychryn;
yr oedd yn ddyrchafedig yn Israel;
ond pan bechodd gyda Baal, bu farw.
2Ac yn awr y maent yn pechu ychwaneg;
gwnânt iddynt eu hunain ddelw dawdd,
eilunod cywrain o arian,
y cyfan yn waith crefftwyr.
“Aberthwch#13:2 Hebraeg, Aberthwyr. i'r rhai hyn,” meddant.
Pobl yn cusanu lloi!
3Felly byddant fel tarth y bore,
ac fel gwlith yn codi'n gyflym,
fel us yn chwyrlïo o'r llawr dyrnu,
ac fel mwg trwy hollt.
4“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,
a'th ddygodd o wlad yr Aifft;
nid adwaenit Dduw heblaw myfi,
ac nid oedd achubydd ond myfi.
5Gofelais amdanat yn yr anialwch,
yn nhir sychder.
6Dan fy ngofal cawsant ddigon;
fe'u llanwyd, a dyrchafodd eu calon;
felly yr anghofiwyd fi.
7Minnau, byddaf fel llew iddynt;
llechaf fel llewpard ar ymyl y llwybr.
8Syrthiaf arnynt fel arth wedi colli ei chenawon,
rhwygaf gnawd eu mynwes,
ac yno traflyncaf hwy fel llew,
fel y llarpia anifail gwyllt hwy.
9“Pan ddinistriaf di, O Israel,
pwy fydd dy gynorthwywr?
10Ble yn awr mae dy frenin, i'th achub yn dy holl ddinasoedd,
a'th farnwyr, y dywedaist amdanynt,
‘Dyro inni frenin a thywysogion’?
11Rhoddais iti frenin yn fy nig,
ac fe'i dygais ymaith yn fy nghynddaredd.
12Rhwymwyd drygioni Effraim,
a storiwyd ei bechod.
13Pan ddaw poenau esgor,
am mai plentyn anghall ydyw,
ni esyd ei hun yn yr amser
ym man yr esgor.
14“A waredaf hwy o afael Sheol?
A achubaf hwy rhag angau?
O angau, ble mae dy blâu?
O Sheol, ble mae dy ddinistr?#13:14 Felly Groeg a Syrieg. Hebraeg yn amwys.
Cuddiwyd trugaredd#13:14 Neu, dialedd. oddi wrth fy llygaid.
15“Yn wir yr oedd yn dwyn ffrwyth ymysg brodyr,
ond daw dwyreinwynt, gwynt yr ARGLWYDD,
yn codi o'r anialwch;
â ei ffynnon yn hesb,
a sychir ei bydew;
dinoetha ei drysordy
o'i holl ddarnau gwerthfawr.
16 # 13:16 Hebraeg, 14:1. Bydd Samaria yn euog,
am iddi wrthryfela yn erbyn ei Duw;
syrthiant wrth y cleddyf,
dryllir eu rhai bychain yn chwilfriw,
a rhwygir eu rhai beichiog yn agored.”

Dewis Presennol:

Hosea 13: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda