Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 15

15
Yn Erbyn Moab
1Yr oracl am Moab:
Y noson y dinistrir Ar, fe dderfydd am Moab;
y noson y dinistrir Cir, fe dderfydd am Moab.
2Dringa merch#15:2 Tebygol. Hebraeg, y tŷ a. Dibon i'r uchelfa i wylo;
dros Nebo a thros Medeba fe uda Moab.
Bydd moelni ar bob pen, a phob barf wedi ei heillio;
3gwisgir sachliain yn yr heolydd;
ar bennau'r tai, ac yn sgwâr y dref,
bydd pawb yn udo ac yn beichio wylo.
4Bydd Hesbon ac Eleale yn llefain,
a chlywir eu cri hyd Jahas;
am hynny bydd lwynau Moab yn crynu,
ac yntau yn ysgwyd drwyddo.
5Y mae fy nghalon yn llefain dros Moab.
Bydd ei ffoaduriaid yn mynd mor bell â Soar,
hyd Eglath-shalisheia;
dringant riw Luhith dan wylo,
a thorri calon ar ffordd Horonaim.
6Bydd dyfroedd Nimrim yn sychdir;
gwywa'r llysiau, metha'r egin, diflanna'r glesni.
7Am hynny cludant dros nant Arabim
yr eiddo a'r enillion a gasglwyd ganddynt.
8Aeth y gri o amgylch terfynau Moab,
nes bod udo yn Eglaim, ac udo yn Beer-elim.
9Y mae dyfroedd Dimon yn llawn o waed,
ond dygaf waeth eto ar Dimon—
llew ar warthaf ffoaduriaid Moab,
ac ar warthaf y gweddill yn y tir.

Dewis Presennol:

Eseia 15: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda