Paid ag ofni, oherwydd ni chywilyddir di, ni ddaw gwaradwydd na gwarth arnat; oherwydd fe anghofi gywilydd dy ieuenctid, ac ni chofi bellach am warth dy Weddwdod. Oherwydd yr un a'th greodd yw dy ŵr— ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw; Sanct Israel yw dy waredydd, a Duw yr holl ddaear y gelwir ef. Fel gwraig wedi ei gadael, a'i hysbryd yn gystuddiol, y galwodd yr ARGLWYDD di— gwraig ifanc wedi ei gwrthod,” medd dy Dduw. “Am ennyd fechan y'th adewais, ond fe'th ddygaf yn ôl â thosturi mawr. Am ychydig, mewn dicter moment, cuddiais fy wyneb rhagot; ond â chariad di-baid y tosturiaf wrthyt,” medd yr ARGLWYDD, dy Waredydd.
Darllen Eseia 54
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Eseia 54:4-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos