Iago 1:2-4
Iago 1:2-4 BCND
Fy nghyfeillion, cyfrifwch hi'n llawenydd pur pan syrthiwch i amrywiol brofedigaethau, gan wybod fod y prawf ar eich ffydd yn magu dyfalbarhad. A gadewch i ddyfalbarhad gyflawni ei waith, er mwyn ichwi fod yn berffaith a chyflawn, heb fod yn ddiffygiol mewn dim.


