Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Jeremeia 35

35
Jeremeia a'r Rechabiaid
1Dyma'r gair a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr ARGLWYDD yn nyddiau Jehoiacim fab Joseia, brenin Jwda, a dweud, 2“Dos i dŷ'r Rechabiaid, a siarad â hwy; pâr iddynt ddod i dŷ'r ARGLWYDD, i un o'r ystafelloedd yno, a chynnig iddynt win i'w yfed.” 3Yna cymerais Jaasaneia, mab Jeremeia fab Habasineia, a'i frodyr, a'i holl feibion, a holl deulu'r Rechabiaid. 4Deuthum â hwy i dŷ'r ARGLWYDD, i ystafell meibion Hanan fab Igdaleia, gŵr Duw, sef yr ystafell sydd yn ymyl ystafell y tywysogion, ac uwchben ystafell Maaseia fab Salum, ceidwad y drws. 5Rhois gerbron teulu'r Rechabiaid ffiolau llawn o win a chwpanau, a dywedais wrthynt, “Yfwch win.” 6Ond dywedasant, “Nid yfwn ni win, oherwydd gorchmynnodd Jonadab, mab Rechab ein tad, i ni, ‘Peidiwch ag yfed gwin, chwi na'ch plant, byth; 7peidiwch ag adeiladu tŷ, na hau had, na phlannu gwinllan, na meddiannu dim; ond lle bynnag y byddwch yn aros, trigwch mewn pebyll bob amser, er mwyn ichwi fyw am ddyddiau lawer yn y wlad lle'r ydych.’ 8A buom yn ufudd i lais Jonadab, mab Rechab ein tad, ym mhob peth a orchmynnodd i ni; nid ydym ni na'n gwragedd na'n meibion na'n merched erioed wedi yfed gwin, 9nac adeiladu tai i fyw ynddynt, nac wedi cael na gwinllan na maes na had. 10Yr ydym yn byw mewn pebyll, ac yn gwneud popeth fel y gorchmynnodd Jonadab ein tad inni. 11Ond pan gododd Nebuchadnesar brenin Babilon yn erbyn y wlad, dywedasom, ‘Dewch, awn i Jerwsalem i osgoi llu'r Caldeaid a llu Syria’; a dyna pam yr ydym yn byw yn Jerwsalem.”
12Yna daeth gair yr ARGLWYDD at Jeremeia a dweud, 13“Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Dos a llefara wrth bobl Jwda a phreswylwyr Jerwsalem. Oni chymerwch eich disgyblu i wrando fy ngeiriau?’ medd yr ARGLWYDD. 14‘Fe gadwyd geiriau Jonadab fab Rechab pan orchmynnodd i'w blant nad yfent win, oherwydd nid ydynt yn ei yfed hyd heddiw, ond y maent yn ufuddhau i orchymyn eu tad. Ond er i mi lefaru'n daer wrthych, nid ydych chwi'n ufuddhau i mi. 15Anfonais atoch fy holl weision, y proffwydi, a'u hanfon yn gyson gan ddweud: “Trowch yn wir bob un o'i ffordd ddrygionus, a gwella'ch gweithredoedd; peidiwch â mynd ar ôl duwiau eraill i'w gwasanaethu. Yna cewch fyw yn y tir a roddais i chwi ac i'ch hynafiaid.” Ond ni wrandawsoch arnaf fi nac ufuddhau. 16Cadwodd meibion Jonadab fab Rechab orchymyn eu tad, ond nid ufuddhaodd y bobl hyn i mi.’
17“Am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD Dduw y Lluoedd, Duw Israel: ‘Yr wyf am ddwyn ar Jwda a holl drigolion Jerwsalem yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn, oherwydd lleferais wrthynt ac ni wrandawsant, gelwais arnynt ac nid atebasant.’ ” 18Ac wrth deulu'r Rechabiaid dywedodd Jeremeia, “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: ‘Oherwydd i chwi ufuddhau i orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl ddeddfau a gwneud pob peth a orchmynnodd i chwi, 19am hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd, Duw Israel: Ni fydd Jonadab fab Rechab byth heb ŵr i sefyll yn fy ngŵydd.’ ”

Dewis Presennol:

Jeremeia 35: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda