Daeth y dydd i'r bodau nefol ymddangos o flaen yr ARGLWYDD, a daeth Satan hefyd gyda hwy. Gofynnodd yr ARGLWYDD i Satan, “O ble y daethost ti?” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “O fynd yma ac acw hyd y ddaear a thramwyo drosti.” Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “A sylwaist ar fy ngwas Job? Nid oes neb tebyg iddo ar y ddaear, gŵr cywir ac uniawn, yn ofni Duw ac yn cefnu ar ddrwg.” Atebodd Satan yr ARGLWYDD a dweud, “Ai'n ddiachos y mae Job yn ofni Duw? Oni warchodaist drosto ef a'i deulu a'i holl eiddo? Bendithiaist ei waith, a chynyddodd ei dda yn y tir. Ond estyn di dy law i gyffwrdd â dim o'i eiddo; yna'n sicr fe'th felltithia yn dy wyneb.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, “Wele'r cyfan sydd ganddo yn dy law di, ond iti beidio â chyffwrdd ag ef ei hun.” Ac aeth Satan allan o ŵydd yr ARGLWYDD.
Un diwrnod, pan oedd ei feibion a'i ferched yn bwyta ac yn yfed yn nhŷ eu brawd hynaf, daeth cennad at Job a dweud, “Pan oedd yr ychen yn aredig a'r asennod yn pori gerllaw, daeth y Sabeaid ar eu gwarthaf a'u cipio, a tharo'r gweision â chleddyf; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.” Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Disgynnodd tân mawr o'r nefoedd ac ysu'r defaid a'r gweision a'u difa'n llwyr, a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.” Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Daeth y Caldeaid yn dair mintai, ac ymosod ar y camelod a'u cipio, a tharo'r gweision â chleddyf, a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.” Tra oedd hwn yn llefaru, daeth un arall a dweud, “Yr oedd dy feibion a'th ferched yn bwyta ac yn yfed gwin yn nhŷ eu brawd hynaf, a daeth gwynt nerthol dros yr anialwch a tharo pedair congl y tŷ, a syrthiodd ar y bobl ifainc, a buont farw; a myfi'n unig a ddihangodd i fynegi hyn i ti.”
Yna cododd Job a rhwygodd ei fantell, eilliodd ei ben, a syrthiodd ar y ddaear ac ymgrymu a dweud,
“Yn noeth y deuthum o groth fy mam, ac yn noeth y dychwelaf yno.
Yr ARGLWYDD a roddodd, a'r ARGLWYDD a ddygodd ymaith.
Bendigedig fyddo enw'r ARGLWYDD.”
Yn hyn i gyd ni phechodd Job, na gweld bai ar Dduw.