Job 20
20
1Yna atebodd Soffar y Naamathiad:
2“Yn awr, fe'm cynhyrfir i ateb;
am hynny atebaf ar frys.
3Clywais gerydd sy'n fy nifrïo;
y mae cynnwrf fy meddwl yn fy ngorfodi i ateb.
4Onid wyt yn gwybod hyn? o'r dechrau,
er pan osodwyd pobl ar y ddaear,
5byr yw gorfoledd y drygionus,
ac am gyfnod yn unig y pery llawenydd yr annuwiol.
6Er i'w falchder esgyn i'r uchelder,
ac i'w ben gyffwrdd â'r cymylau,
7eto derfydd am byth fel ei dom ei hun,
a dywed y rhai a'i gwelodd, ‘Ple mae ef?’
8Eheda ymaith fel breuddwyd, ac ni fydd yn bod;
fe'i hymlidir fel gweledigaeth nos.
9Y llygad a'i gwelodd, ni wêl mohono mwy,
ac nid edrych arno yn ei le.
10Cais ei blant ffafr y tlawd,
a dychwel ei ddwylo ei gyfoeth.
11Y mae ei esgyrn sy'n llawn egni
yn gorwedd gydag ef yn y llwch.
12“Er i ddrygioni droi'n felys yn ei enau,
a'i fod yntau am ei gadw dan ei dafod,
13ac yn anfodlon ei ollwng,
ond yn ei ddal dan daflod ei enau,
14eto y mae ei fwyd yn ei gylla
yn troi'n wenwyn asb iddo.
15Llynca gyfoeth, ac yna'i chwydu;
bydd Duw'n ei dynnu allan o'i fol.
16Sugna wenwyn yr asb,
ac yna fe'i lleddir gan golyn gwiber.
17Ni chaiff weld ffrydiau o olew#20:17 Cymh. 29:6. Hebraeg, afonydd o.,
nac afonydd o fêl a llaeth.
18Dychwel ffrwyth ei lafur heb iddo elwa arno;
er cymaint ei enillion, ni chaiff eu mwynhau.
19Oherwydd gorthrymodd y tlawd a'i adael yn ddiymgeledd;
cipiodd dŷ nas adeiladodd.
20Ni ŵyr sut i dawelu ei chwant,
ac ni ddianc dim rhag ei wanc.
21Nid oes gweddill iddo'i fwyta,
ac felly nid oes parhad i'w ffyniant.
22Wedi digoni ei chwant, â'n gyfyng arno;
daw holl rym gofid arno.
23Pan fydd ar fedr llenwi ei fol,
gyrrir arno angerdd llid,
a'i dywallt i lawr i'w berfedd.
24“Fe ffy rhag arfau haearn,
ond fe'i trywenir gan y saeth bres.
25Tynnir hi allan o'i gorff,
y blaen gloyw allan o'i fustl;
daw dychrynfeydd arno.
26Tywyllwch llwyr a gadwyd ar gyfer ei drysorau;
ysir ef gan dân nad oes raid ei chwythu;
difethir yr hyn a adawyd yn ei babell.
27Dadlenna'r nefoedd ei gamwedd,
a chyfyd y ddaear yn ei erbyn.
28Bydd i'r dilyw ddwyn ymaith ei dŷ,
a llifogydd, yn nydd ei lid.
29Dyma dynged yr annuwiol oddi wrth Dduw,
a'r etifeddiaeth a osododd iddo.”
Dewis Presennol:
Job 20: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004