Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Job 35

35
1Dywedodd Elihu:
2“A gredi di fod hyn yn iawn?
A wyt ti'n honni bod yn gyfiawn o flaen Duw,
3a thithau'n dweud, ‘Pa werth ydyw i ti,
neu pa fantais i mi fy hun fod heb bechu?’
4Fe roddaf fi'r ateb iti,
a hefyd i'th gyfeillion.
5Edrych ar yr awyr, ac ystyria,
a sylwa ar y cymylau sydd uwch dy ben.
6Os pechaist, pa wahaniaeth yw iddo ef?
Ac os amlha dy droseddau, beth a wna hynny iddo ef?
7Os wyt yn gyfiawn, beth yw'r fantais iddo ef,
neu beth a dderbyn ef o'th law?
8Â meidrolion fel ti y mae a wnelo dy ddrygioni,
ac â phobl y mae a wnelo dy gyfiawnder.
9“Pan waedda pobl dan faich gorthrwm,
a llefain am waredigaeth o afael y mawrion,
10ni ddywed neb, ‘Ble mae Duw, fy ngwneuthurwr,
a rydd destun cân yn y nos,
11ac a'n gwna'n fwy deallus na'r anifeiliaid gwylltion,
ac yn fwy doeth nag adar yr awyr?’
12Felly, er iddynt weiddi, nid etyb ef,
o achos balchder y drygionus.
13Ofer yn wir! Nid yw Duw'n gwrando arno,
ac nid yw'r Hollalluog yn cymryd sylw ohono.
14Nac ychwaith ohonot tithau pan ddywedi nad wyt yn ei weld,
a bod yr achos o'i flaen, a'th fod yn dal i ddisgwyl wrtho.
15Ond yn awr, am nad yw ef yn cosbi yn ei ddig,
ac nad yw'n sylwi'n fanwl ar gamwedd,
16fe lefarodd Job yn ynfyd,
ac amlhau geiriau heb ddeall.”

Dewis Presennol:

Job 35: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda