Yna galwodd Josua y Reubeniaid, y Gadiaid a hanner llwyth Manasse, a dweud wrthynt, “Yr ydych wedi cadw'r cwbl a orchmynnodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi, a buoch yn ufudd i bob gorchymyn a roddais innau ichwi. Ers cyfnod maith hyd y dydd hwn nid ydych wedi cefnu ar eich perthnasau, a buoch yn ofalus i gadw gorchymyn yr ARGLWYDD eich Duw. Bellach y mae'r ARGLWYDD eich Duw wedi rhoi diogelwch i'ch perthnasau, fel yr addawodd iddynt; felly, yn awr, trowch yn ôl ac ewch adref i'r tir a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD i chwi i'w feddiannu y tu hwnt i'r Iorddonen. Yn unig byddwch yn ofalus iawn i gadw'r gorchymyn a'r gyfraith a roddodd Moses gwas yr ARGLWYDD ichwi, i garu'r ARGLWYDD eich Duw, a cherdded yn ei holl lwybrau, i gadw ei orchmynion, a glynu wrtho a'i wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid.”
Darllen Josua 22
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Josua 22:1-5
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos