Ac meddai Mair: “Y mae fy enaid yn mawrygu yr Arglwydd, a gorfoleddodd fy ysbryd yn Nuw, fy Ngwaredwr, am iddo ystyried distadledd ei lawforwyn. Oherwydd wele, o hyn allan fe'm gelwir yn wynfydedig gan yr holl genedlaethau, oherwydd gwnaeth yr hwn sydd nerthol bethau mawr i mi, a sanctaidd yw ei enw ef; y mae ei drugaredd o genhedlaeth i genhedlaeth i'r rhai sydd yn ei ofni ef. Gwnaeth rymuster â'i fraich, gwasgarodd y rhai balch eu calon; tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau, a dyrchafodd y rhai distadl; llwythodd y newynog â rhoddion, ac anfonodd y cyfoethogion ymaith yn waglaw. Cynorthwyodd ef Israel ei was, gan ddwyn i'w gof ei drugaredd— fel y llefarodd wrth ein hynafiaid— ei drugaredd wrth Abraham a'i had yn dragywydd.”
Darllen Luc 1
Gwranda ar Luc 1
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 1:46-55
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos