Pan oeddent ar y ffordd yn teithio, meddai rhywun wrtho, “Canlynaf di lle bynnag yr ei.” Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.” Ac meddai wrth un arall, “Canlyn fi.” Meddai yntau, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.” Ond meddai ef wrtho, “Gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain; dos di a chyhoedda deyrnas Dduw.” Ac meddai un arall, “Canlynaf di, Arglwydd; ond yn gyntaf caniatâ imi ffarwelio â'm teulu.” Ond meddai Iesu wrtho, “Nid yw'r sawl a osododd ei law ar yr aradr, ac sy'n edrych yn ôl, yn addas i deyrnas Dduw.”
Darllen Luc 9
Gwranda ar Luc 9
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Luc 9:57-62
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos