Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Malachi 3:6-12

Malachi 3:6-12 BCND

“Oherwydd nid wyf fi, yr ARGLWYDD, yn newid, ac nid ydych chwithau'n peidio â bod yn blant Jacob. O ddyddiau eich hynafiaid, troesoch oddi wrth fy neddfau a pheidio â'u cadw. Dychwelwch ataf fi, a dychwelaf finnau atoch chwi,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “A dywedwch, ‘Sut y dychwelwn?’ A ysbeilia rhywun Dduw? Eto yr ydych chwi yn fy ysbeilio i. A dywedwch, ‘Sut yr ydym yn dy ysbeilio?’ Yn eich degymau a'ch cyfraniadau. Fe'ch melltithiwyd â melltith am eich bod yn fy ysbeilio i, y genedl gyfan ohonoch. Dygwch y degwm llawn i'r trysordy, fel y bo bwyd yn fy nhŷ. Profwch fi yn hyn,” medd ARGLWYDD y Lluoedd, “nes imi agor i chwi ffenestri'r nefoedd a thywallt arnoch fendith yn helaeth. Ceryddaf hefyd y locust, rhag iddo ddifetha cynnyrch eich tir a gwneud eich gwinwydden yn ddiffrwyth,” medd ARGLWYDD y Lluoedd. “Yna bydd yr holl genhedloedd yn dweud, ‘Gwyn eich byd’, oherwydd byddwch yn wlad o hyfrydwch,” medd ARGLWYDD y Lluoedd.