“Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych: peidiwch â gwrthsefyll y sawl sy'n gwneud drwg i chwi. Os bydd rhywun yn dy daro ar dy foch dde, tro'r llall ato hefyd. Ac os bydd rhywun am fynd â thi i gyfraith a chymryd dy grys, gad iddo gael dy fantell hefyd. Ac os bydd rhywun yn dy orfodi i'w ddanfon am un cilomedr, dos gydag ef ddau. Rho i'r sawl sy'n gofyn gennyt, a phaid â throi i ffwrdd oddi wrth y sawl sydd am fenthyca gennyt. “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.’ Ond rwyf fi'n dweud wrthych: carwch eich gelynion, a gweddïwch dros y rhai sy'n eich erlid; felly fe fyddwch yn blant i'ch Tad sydd yn y nefoedd, oherwydd y mae ef yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn rhoi glaw i'r cyfiawn a'r anghyfiawn. Os carwch y rhai sy'n eich caru chwi, pa wobr sydd i chwi? Onid yw hyd yn oed y casglwyr trethi yn gwneud cymaint â hynny? Ac os cyfarchwch eich cydnabod yn unig, pa ragoriaeth sydd yn hynny? Onid yw'r Cenhedloedd hyd yn oed yn gwneud cymaint â hynny? Felly byddwch chwi'n berffaith fel y mae eich Tad nefol yn berffaith.
Darllen Mathew 5
Gwranda ar Mathew 5
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Mathew 5:38-48
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos