Yn y dyddiau diwethaf bydd mynydd tŷ'r ARGLWYDD wedi ei osod ar ben y mynyddoedd ac yn uwch na'r bryniau. Dylifa'r bobloedd ato, a daw cenhedloedd lawer, a dweud, “Dewch, esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i deml Duw Jacob, er mwyn iddo ddysgu inni ei ffyrdd ac i ninnau rodio yn ei lwybrau.” Oherwydd o Seion y daw'r gyfraith, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem. Bydd ef yn barnu rhwng cenhedloedd, ac yn torri'r ddadl i bobloedd cryfion o bell; byddant hwy'n curo'u cleddyfau'n geibiau, a'u gwaywffyn yn grymanau. Ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach; a bydd pob un yn eistedd dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i'w ddychryn. Oherwydd genau ARGLWYDD y Lluoedd a lefarodd. Rhodia pob un o'r cenhedloedd yn enw ei duw, ac fe rodiwn ninnau yn enw'r ARGLWYDD ein Duw dros byth. “Yn y dydd hwnnw,” medd yr ARGLWYDD, “fe gasglaf y cloff, a chynnull y rhai a wasgarwyd a'r rhai a gosbais; a gwnaf weddill o'r cloff, a chenedl gref o'r gwasgaredig, a theyrnasa'r ARGLWYDD drostynt ym Mynydd Seion yn awr a hyd byth. A thithau, tŵr y ddiadell, mynydd merch Seion, i ti y daw, ie, y daw y llywodraeth a fu, y frenhiniaeth i ferch Jerwsalem.”
Darllen Micha 4
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Micha 4:1-8
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos