Ond beth bynnag oedd yn ennill i mi, yr wyf yn awr yn ei ystyried yn golled oherwydd Crist. A mwy na hynny hyd yn oed, yr wyf yn dal i gyfrif pob peth yn golled, ar bwys rhagoriaeth y profiad o adnabod Crist Iesu fy Arglwydd, yr un y collais bob peth o'i herwydd. Yr wyf yn cyfrif y cwbl yn ysbwriel, er mwyn imi ennill Crist a'm cael ynddo ef, heb ddim cyfiawnder o'm heiddo fy hun sy'n tarddu o'r Gyfraith, ond hwnnw sydd trwy ffydd yng Nghrist, y cyfiawnder sydd o Dduw ar sail ffydd. Rwyf am ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad, a chymdeithas ei ddioddefiadau, wrth gael fy nghydffurfio â'i farwolaeth ef, fel y caf i rywfodd, gyrraedd yr atgyfodiad oddi wrth y meirw.
Darllen Philipiaid 3
Gwranda ar Philipiaid 3
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Philipiaid 3:7-11
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos