Diarhebion 1
1
Gwerth Diarhebion
1Diarhebion Solomon fab Dafydd, brenin Israel—
2i gael doethineb ac addysg,
i ddeall geiriau deallus,
3i dderbyn addysg fuddiol,
cyfiawnder, barn, ac uniondeb,
4i roi craffter i'r gwirion,
a gwybodaeth a synnwyr i'r ifanc.
5Y mae'r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg,
a'r deallus yn ennill medrusrwydd,
6i ddeall dameg a'i dehongliad,
dywediadau'r doeth a'u posau.
Cyngor i'r Ifanc
7Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau gwybodaeth,
ond y mae ffyliaid yn diystyru doethineb a disgyblaeth.
8Fy mab, gwrando ar addysg dy dad,
paid â gwrthod cyfarwyddyd dy fam;
9bydd yn dorch brydferth ar dy ben,
ac yn gadwyn am dy wddf.
10Fy mab, os hudir di gan bechaduriaid,
paid â chytuno â hwy.
11Fe ddywedant, “Tyrd gyda ni,
inni gynllwynio i dywallt gwaed,
a llechu'n ddiachos yn erbyn y diniwed;
12fel Sheol, llyncwn hwy'n fyw
ac yn gyfan, fel rhai'n disgyn i'r pwll;
13fe gymerwn bob math ar gyfoeth,
a llenwi ein tai ag ysbail;
14bwrw dy goelbren gyda ni,
a bydd un pwrs rhyngom i gyd.”
15Fy mab, paid â mynd yr un ffordd â hwy;
cadw dy droed oddi ar eu llwybr.
16Oherwydd y mae eu traed yn rhuthro at ddrwg,
ac yn prysuro i dywallt gwaed.
17Yn sicr, ofer yw gosod rhwyd
yng ngolwg unrhyw aderyn hedegog.
18Am eu gwaed eu hunain y maent yn cynllwynio,
ac yn llechu yn eu herbyn eu hunain.
19Dyma dynged pob un awchus am elw;
y mae'n cymryd einioes y sawl a'i piau.
Doethineb yn Galw
20Y mae doethineb yn galw'n uchel yn y stryd,
yn codi ei llais yn y sgwâr,
21yn gweiddi ar ben y muriau,
yn traethu ei geiriau ym mynedfa pyrth y ddinas.
22Chwi'r rhai gwirion, pa hyd y bodlonwch ar fod yn wirion,
ac yr ymhyfryda'r gwatwarwyr mewn gwatwar,
ac y casâ ffyliaid wybodaeth?
23Os newidiwch eich ffyrdd dan fy ngherydd,
tywalltaf fy ysbryd arnoch,
a gwneud i chwi ddeall fy ngeiriau.
24Ond am i mi alw, a chwithau heb ymateb,
ac imi estyn fy llaw, heb neb yn gwrando;
25am i chwi ddiystyru fy holl gyngor,
a gwrthod fy ngherydd—
26am hynny, chwarddaf ar eich dinistr,
a gwawdio pan ddaw dychryn arnoch,
27pan ddaw dychryn arnoch fel corwynt,
a dinistr yn taro fel storm,
pan ddaw adfyd a gwasgfa arnoch.
28Yna galwant arnaf, ond nid atebaf;
fe'm ceisiant yn ddyfal, ond heb fy nghael.
29Oherwydd iddynt gasáu gwybodaeth,
a throi oddi wrth ofn yr ARGLWYDD,
30a gwrthod fy nghyngor,
ac anwybyddu fy holl gerydd,
31cânt fwyta o ffrwyth eu ffyrdd,
a syrffedu ar eu cynlluniau.
32Oherwydd bydd anufudd-dod y gwirion yn eu lladd,
a difrawder y ffyliaid yn eu difa.
33Ond bydd yr un a wrendy arnaf yn byw'n ddiogel,
yn dawel heb ofni drwg.
Dewis Presennol:
Diarhebion 1: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004