Onid yw doethineb yn galw,
a deall yn codi ei lais?
Y mae'n sefyll ar y mannau uchel ar fin y ffordd,
ac yn ymyl y croesffyrdd;
Y mae'n galw gerllaw'r pyrth sy'n arwain i'r dref,
wrth y fynedfa at y pyrth:
“Arnoch chwi, bobl, yr wyf yn galw,
ac atoch chwi, ddynolryw, y daw fy llais.
Chwi, y rhai gwirion, dysgwch graffter,
a chwithau, ffyliaid, ceisiwch synnwyr.
Gwrandewch, oherwydd traethaf bethau gwerthfawr,
a daw geiriau gonest o'm genau.
Traetha fy nhafod y gwir,
ac y mae anwiredd yn ffiaidd gan fy ngenau.
Y mae fy holl eiriau yn gywir;
nid yw'r un ohonynt yn ŵyr na thraws.
Y mae'r cyfan yn eglur i'r deallus,
ac yn uniawn i'r un sy'n ceisio gwybodaeth.
Derbyniwch fy nghyfarwyddyd yn hytrach nag arian,
oherwydd gwell yw nag aur.
Yn wir, y mae doethineb yn well na gemau,
ac ni all yr holl bethau dymunol gystadlu â hi.
Yr wyf fi, doethineb, yn byw gyda chraffter,
ac wedi cael gwybodaeth a synnwyr.
Ofn yr ARGLWYDD yw casáu drygioni;
yr wyf yn ffieiddio balchder ac uchelgais,
ffordd drygioni a geiriau traws.
Fy eiddo i yw cyngor a chraffter,
a chennyf fi y mae deall a gallu.
Trwof fi y teyrnasa brenhinoedd,
ac y llunia llywodraethwyr ddeddfau cyfiawn.
Trwof fi y caiff tywysogion awdurdod,
ac y barna penaethiaid yn gyfiawn.
Yr wyf yn caru pob un sy'n fy ngharu i,
ac y mae'r rhai sy'n fy ngheisio'n ddyfal yn fy nghael.
Gennyf fi y mae cyfoeth ac anrhydedd,
digonedd o olud a chyfiawnder.
Y mae fy ffrwythau'n well nag aur, aur coeth,
a'm cynnyrch yn well nag arian pur.
Rhodiaf ar hyd ffordd cyfiawnder,
ar ganol llwybrau barn,
a rhoddaf gyfoeth i'r rhai a'm câr,
a llenwi eu trysordai.
“Lluniodd yr ARGLWYDD fi ar ddechrau ei waith,
yn gyntaf o'i weithredoedd gynt.
Fe'm sefydlwyd yn y gorffennol pell,
yn y dechrau, cyn bod daear.
Ganwyd fi cyn bod dyfnderau,
cyn bod ffynhonnau yn llawn dŵr.
Cyn gosod sylfeini'r mynyddoedd,
cyn bod y bryniau, y ganwyd fi,
cyn iddo greu tir a meysydd,
ac o flaen pridd y ddaear.
Yr oeddwn i yno pan oedd yn gosod y nefoedd yn ei lle
ac yn rhoi cylch dros y dyfnder,
pan oedd yn cadarnhau'r cymylau uwchben
ac yn sicrhau ffynhonnau'r dyfnder,
pan oedd yn gosod terfyn i'r môr,
rhag i'r dyfroedd anufuddhau i'w air,
a phan oedd yn cynllunio sylfeini'r ddaear.
Yr oeddwn i wrth ei ochr yn gyson,
yn hyfrydwch iddo beunydd,
yn ddifyrrwch o'i flaen yn wastad,
yn ymddifyrru yn y byd a greodd,
ac yn ymhyfrydu mewn pobl.
“Yn awr, blant, gwrandewch arnaf;
gwyn eu byd y rhai sy'n cadw fy ffyrdd.
Gwrandewch ar gyfarwyddyd, a byddwch ddoeth;
peidiwch â'i anwybyddu.
Gwyn ei fyd y sawl sy'n gwrando arnaf,
sy'n disgwyl yn wastad wrth fy nrws,
ac yn gwylio wrth fynedfa fy nhŷ.
Yn wir, y mae'r un sy'n fy nghael i yn cael bywyd,
ac yn ennill ffafr yr ARGLWYDD;
ond y mae'r un sy'n methu fy nghael yn ei ddinistrio'i hun,
a phawb sy'n fy nghasáu yn caru marwolaeth.”