Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 133

133
Cân Esgyniad. I Ddafydd.
1Mor dda ac mor ddymunol yw
i bobl fyw'n gytûn.
2Y mae fel olew gwerthfawr ar y pen,
yn llifo i lawr dros y farf,
dros farf Aaron,
yn llifo i lawr dros goler ei wisgoedd.
3Y mae fel gwlith Hermon
yn disgyn i lawr ar fryniau Seion.
Oherwydd yno y gorchmynnodd yr ARGLWYDD ei fendith,
bywyd hyd byth.

Dewis Presennol:

Y Salmau 133: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda