Y Salmau 52
52
I'r Cyfarwyddwr: Mascîl. I Ddafydd, pan ddaeth Doeg yr Edomiad a dweud wrth Saul fod Dafydd wedi dod i dŷ Ahimelech.
1O ŵr grymus, pam yr ymffrosti yn dy ddrygioni
yn erbyn y duwiol#52:1 Tebygol. Hebraeg, ddrygioni? Y mae trugaredd Duw. yr holl amser?
2Yr wyt yn cynllwyn distryw;
y mae dy dafod fel ellyn miniog,
ti dwyllwr.
3Yr wyt yn caru drygioni'n fwy na daioni,
a chelwydd yn fwy na dweud y gwir.
Sela
4Yr wyt yn caru pob gair difaol
ac iaith dwyllodrus.
5Bydd Duw'n dy dynnu i lawr am byth,
bydd yn dy gipio ac yn dy dynnu o'th babell,
ac yn dy ddadwreiddio o dir y byw.
Sela
6Bydd y cyfiawn yn gweld ac yn ofni,
yn chwerthin am ei ben ac yn dweud,
7“Dyma'r un na wnaeth Dduw yn noddfa,
ond a ymddiriedodd yn nigonedd ei drysorau,
a cheisio noddfa yn ei gyfoeth#52:7 Felly Syrieg a Targwm. Hebraeg, ei drachwant. ei hun.”
8Ond yr wyf fi fel olewydden iraidd yn nhŷ Dduw;
ymddiriedaf yn ffyddlondeb Duw byth bythoedd.
9Diolchaf iti hyd byth am yr hyn a wnaethost;
cyhoeddaf#52:9 Tebygol. Hebraeg, disgwyliaf. dy enw—oherwydd da yw—ymysg dy ffyddloniaid.
Dewis Presennol:
Y Salmau 52: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapistaging.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004