Genesis 42
42
Brodyr Joseff yn Mynd i'r Aifft
1Pan ddeallodd Jacob fod ŷd yn yr Aifft, dywedodd wrth ei feibion, “Pam yr ydych yn edrych ar eich gilydd? 2Clywais fod ŷd i'w gael yn yr Aifft; ewch i lawr yno a phrynwch i ni, er mwyn inni gael byw ac nid marw.” 3Felly aeth deg o frodyr Joseff i brynu ŷd yn yr Aifft; 4ond nid anfonodd Jacob Benjamin, brawd Joseff, gyda'i frodyr, rhag ofn i niwed ddigwydd iddo. 5Daeth meibion Israel ymhlith eraill i brynu ŷd, am fod newyn trwy wlad Canaan.
6Joseff oedd yr arolygwr dros y wlad, ac ef oedd yn gwerthu ŷd i bawb. A daeth brodyr Joseff ac ymgrymu iddo i'r llawr. 7Pan welodd Joseff ei frodyr, adnabu hwy, ond ymddygodd fel dieithryn a siarad yn hallt wrthynt. Gofynnodd iddynt, “O ble y daethoch?” Ac atebasant, “O wlad Canaan i brynu bwyd.” 8Yr oedd Joseff wedi adnabod ei frodyr, ond nid oeddent hwy'n ei adnabod ef. 9Cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanynt, a dywedodd wrthynt, “Ysbiwyr ydych; yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.” 10Dywedasant hwythau wrtho, “Na, arglwydd, y mae dy weision wedi dod i brynu bwyd. 11Meibion un gŵr ydym ni i gyd, a dynion gonest; nid ysbiwyr yw dy weision.” 12Meddai yntau wrthynt, “Na, yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad.” 13Atebasant, “Deuddeg brawd oedd dy weision, meibion un gŵr yng ngwlad Canaan; y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad, ond nid yw'r llall yn fyw.” 14Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Y gwir amdani yw mai ysbiwyr ydych. 15Fel hyn y rhoddir prawf arnoch: cyn wired â bod Pharo'n fyw, ni chewch ymadael oni ddaw eich brawd ieuengaf yma. 16Anfonwch un o'ch plith i gyrchu eich brawd, tra byddwch chwi yng ngharchar; felly y profir eich geiriau, i wybod a ydynt yn wir. Os nad ydynt, cyn wired â bod Pharo'n fyw, ysbiwyr ydych.” 17A rhoddodd hwy i gyd yng ngharchar am dridiau.
18Ar y trydydd diwrnod dywedodd Joseff wrthynt, “Fel hyn y gwnewch er mwyn ichwi gael byw, oherwydd yr wyf yn ofni Duw: 19os ydych yn wŷr gonest, cadwer un brawd yng ngharchar, a chewch chwithau gludo ŷd at angen eich teuluoedd, 20a dod â'ch brawd ieuengaf ataf. Felly y ceir gweld eich bod yn dweud y gwir, ac ni byddwch farw.” Dyna a wnaed. 21Yna dywedasant wrth ei gilydd, “Yn wir, yr ydym yn haeddu cosb o achos ein brawd, am inni weld ei ofid ef pan oedd yn ymbil arnom, a gwrthod gwrando; dyna pam y daeth y gofid hwn arnom.” 22Dywedodd Reuben, “Oni ddywedais wrthych, ‘Peidiwch â gwneud cam â'r bachgen’? Ond ni wrandawsoch, ac yn awr rhaid ateb am ei waed.” 23Ni wyddent fod Joseff yn eu deall, am fod cyfieithydd rhyngddynt. 24Troes yntau oddi wrthynt i wylo. Yna daeth yn ôl a siarad â hwy, a chymerodd Simeon o'u mysg a'i rwymo o flaen eu llygaid.
Brodyr Joseff yn Dychwelyd i Ganaan
25Gorchmynnodd Joseff lenwi eu sachau ag ŷd, a rhoi arian pob un yn ôl yn ei sach, a rhoi bwyd iddynt at y daith. Felly y gwnaed iddynt. 26Yna codasant yr ŷd ar eu hasynnod a mynd oddi yno. 27Pan oedd un yn agor ei sach yn y llety, i roi bwyd i'w asyn, gwelodd ei arian yng ngenau'r sach, 28a dywedodd wrth ei frodyr, “Rhoddwyd fy arian yn ôl; y maent yma yn fy sach.” Yna daeth ofn arnynt a throesant yn grynedig at ei gilydd, a dweud, “Beth yw hyn y mae Duw wedi ei wneud i ni?”
29Pan ddaethant at eu tad Jacob yng ngwlad Canaan, adroddasant eu holl helynt wrtho, a dweud, 30“Siaradodd y gŵr oedd yn arglwydd y wlad yn hallt wrthym, a chymryd mai ysbiwyr oeddem. 31Dywedasom ninnau wrtho, ‘Gwŷr gonest ydym ni, ac nid ysbiwyr. 32Yr oeddem yn ddeuddeg brawd, meibion ein tad; bu farw un, ac y mae'r ieuengaf eto gyda'n tad yng ngwlad Canaan.’ 33Yna dywedodd arglwydd y wlad wrthym, ‘Fel hyn y caf wybod eich bod yn onest: gadewch un o'ch brodyr gyda mi, a chymerwch ŷd at angen eich teuluoedd, ac ewch ymaith. 34Dewch â'ch brawd ieuengaf ataf, imi gael gwybod nad ysbiwyr ydych ond dynion gonest; yna rhof eich brawd ichwi, a chewch farchnata yn y wlad.’ ”
35Pan aethant i wacáu eu sachau yr oedd cod arian pob un yn ei sach. A phan welsant hwy a'u tad y codau arian, daeth ofn arnynt, 36a dywedodd eu tad Jacob wrthynt, “Yr ydych yn fy ngwneud yn ddi-blant; bu farw Joseff, nid yw Simeon yma, ac yr ydych am ddwyn Benjamin ymaith. Y mae pob peth yn fy erbyn.” 37Dywedodd Reuben wrth ei dad, “Cei ladd fy nau fab i os na ddof ag ef yn ôl atat; rho ef yn fy ngofal, ac mi ddof ag ef yn ôl atat.” 38Meddai yntau, “Ni chaiff fy mab fynd gyda chwi, oherwydd bu farw ei frawd, ac nid oes neb ond ef ar ôl. Os digwydd niwed iddo ar eich taith, fe wnewch i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.”
Dewis Presennol:
Genesis 42: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: