Marc 9
9
1Meddai hefyd wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld teyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.”
Gweddnewidiad Iesu
Mth. 17:1–13; Lc. 9:28–36
2Ymhen chwe diwrnod dyma Iesu'n cymryd Pedr ac Iago ac Ioan ac yn mynd â hwy i fynydd uchel o'r neilltu ar eu pennau eu hunain. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, 3ac aeth ei ddillad i ddisgleirio'n glaerwyn, y modd na allai unrhyw bannwr ar y ddaear eu gwynnu. 4Ymddangosodd Elias iddynt ynghyd â Moses; ymddiddan yr oeddent â Iesu. 5A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Rabbi, y mae'n dda ein bod ni yma; gwnawn dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.” 6Oherwydd ni wyddai beth i'w ddweud; yr oeddent wedi dychryn cymaint. 7A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt; a dyma lais o'r cwmwl, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; gwrandewch arno.” 8Ac yn ddisymwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwyach ond Iesu yn unig gyda hwy.
9Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd rhoddodd orchymyn iddynt beidio â dweud wrth neb am y pethau a welsant, nes y byddai Mab y Dyn wedi atgyfodi oddi wrth y meirw. 10Daliasant ar y gair, gan holi yn eu plith eu hunain beth oedd ystyr atgyfodi oddi wrth y meirw. 11A gofynasant iddo, “Pam y mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?” 12Meddai yntau wrthynt, “Y mae Elias yn dod yn gyntaf ac yn adfer pob peth. Ond sut y mae'n ysgrifenedig am Fab y Dyn, ei fod i ddioddef llawer a chael ei ddirmygu? 13Ond rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, a gwnaethant iddo beth bynnag a fynnent, fel y mae'n ysgrifenedig amdano.”
Iacháu Bachgen ag Ysbryd Aflan ynddo
Mth. 17:14–20; Lc. 9:37–43a
14Pan ddaethant at y disgyblion gwelsant dyrfa fawr o'u cwmpas, ac ysgrifenyddion yn dadlau â hwy. 15Ac unwaith y gwelodd yr holl dyrfa ef fe'u syfrdanwyd, a rhedasant ato a'i gyfarch. 16Gofynnodd yntau iddynt, “Am beth yr ydych yn dadlau â hwy?” 17Atebodd un o'r dyrfa ef, “Athro, mi ddois i â'm mab atat; y mae wedi ei feddiannu gan ysbryd mud, 18a pha bryd bynnag y mae hwnnw'n gafael ynddo y mae'n ei fwrw ar lawr, ac y mae yntau'n malu ewyn ac yn ysgyrnygu ei ddannedd ac yn mynd yn ddiymadferth. A dywedais wrth dy ddisgyblion am ei fwrw allan, ac ni allasant.” 19Atebodd Iesu hwy: “O genhedlaeth ddi-ffydd, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef ataf fi.” 20A daethant â'r bachgen ato. Cyn gynted ag y gwelodd yr ysbryd ef, ysgytiodd y bachgen yn ffyrnig. Syrthiodd ar y llawr a rholio o gwmpas dan falu ewyn. 21Gofynnodd Iesu i'w dad, “Faint sydd er pan ddaeth hyn arno?” Dywedodd yntau, “O'i blentyndod; 22llawer gwaith fe'i taflodd i'r tân neu i'r dŵr, i geisio'i ladd. Os yw'n bosibl iti wneud rhywbeth, tosturia wrthym a helpa ni.” 23Dywedodd Iesu wrtho, “Os yw'n bosibl! Y mae popeth yn bosibl i'r sawl sydd â ffydd ganddo.” 24Ar unwaith gwaeddodd tad y plentyn, “Yr wyf yn credu; helpa fi yn fy niffyg ffydd.” 25A phan welodd Iesu fod tyrfa'n rhedeg ynghyd, ceryddodd yr ysbryd aflan. “Ysbryd mud a byddar,” meddai wrtho, “yr wyf fi yn gorchymyn iti, tyrd allan ohono a phaid â mynd i mewn iddo eto.” 26A chan weiddi a'i ysgytian yn ffyrnig, aeth yr ysbryd allan. Aeth y bachgen fel corff, nes i lawer ddweud ei fod wedi marw. 27Ond gafaelodd Iesu yn ei law ef a'i godi, a safodd ar ei draed. 28Ac wedi iddo fynd i'r tŷ gofynnodd ei ddisgyblion iddo o'r neilltu, “Pam na allem ni ei fwrw ef allan?” 29Ac meddai wrthynt, “Dim ond trwy weddi#9:29 Yn ôl darlleniad arall ychwanegir ac ympryd. y gall y math hwn fynd allan.”
Iesu Eilwaith yn Rhagfynegi ei Farwolaeth a'i Atgyfodiad
Mth. 17:22–23; Lc. 9:43b–45
30Wedi iddynt adael y lle hwnnw, yr oeddent yn teithio trwy Galilea. Ni fynnai Iesu i neb wybod hynny, 31oherwydd yr oedd yn dysgu ei ddisgyblion ac yn dweud wrthynt, “Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylo pobl, ac fe'i lladdant ef, ac wedi cael ei ladd, ymhen tri diwrnod fe atgyfoda.” 32Ond nid oeddent hwy'n deall ei eiriau, ac yr oedd arnynt ofn ei holi.
Pwy yw'r Mwyaf?
Mth. 18:1–5; Lc. 9:46–48
33Daethant i Gapernaum, ac wedi cyrraedd y tŷ gofynnodd iddynt, “Beth oeddech chwi'n ei drafod ar y ffordd?” 34Ond tewi a wnaethant, oherwydd ar y ffordd buont yn dadlau â'i gilydd pwy oedd y mwyaf. 35Eisteddodd i lawr a galwodd y Deuddeg, a dweud wrthynt, “Pwy bynnag sydd am fod yn flaenaf, rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn was i bawb.” 36A chymerodd blentyn, a'i osod yn eu canol hwy; cymerodd ef i'w freichiau, a dywedodd wrthynt, 37“Pwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, nid myfi y mae'n ei dderbyn, ond yr hwn a'm hanfonodd i.”
Yr Hwn nid yw yn ein Herbyn, Drosom Ni y Mae
Lc. 9:49–50
38Meddai Ioan wrtho, “Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd, am nad oedd yn ein dilyn ni.” 39Ond dywedodd Iesu, “Peidiwch â'i wahardd, oherwydd ni all neb sy'n gwneud gwyrth yn fy enw i roi drygair imi yn fuan wedyn. 40Y sawl nid yw yn ein herbyn, drosom ni y mae. 41Oherwydd pwy bynnag a rydd gwpanaid o ddŵr i chwi i'w yfed o achos eich bod yn perthyn i'r Meseia, yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chyll ei wobr.
Achosion Cwymp
Mth. 18:6–9; Lc. 17:1–2
42“A phwy bynnag sy'n achos cwymp i un o'r rhai bychain hyn sy'n credu ynof fi, byddai'n well iddo fod wedi ei daflu i'r môr â maen melin mawr ynghrog am ei wddf. 43Os bydd dy law yn achos cwymp iti, tor hi ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus na mynd, a'r ddwy law gennyt, i uffern, i'r tân anniffoddadwy.#9:43 Yn ôl darlleniad arall, anniffoddadwy, 44 lle nid yw eu pryf yn marw na'r tân yn diffodd. 45Ac os bydd dy droed yn achos cwymp iti, tor ef ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn gloff na chael dy daflu, a'r ddau droed gennyt, i uffern.#9:45 Yn ôl darlleniad arall, i uffern, 46 lle nid yw eu pryf yn marw na'r tân yn diffodd. 47Ac os bydd dy lygad yn achos cwymp iti, tyn ef allan; y mae'n well iti fynd i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i uffern, 48lle nid yw eu pryf yn marw na'r tân yn diffodd. 49Oblegid fe helltir pob un â thân. 50Da yw'r halen, ond os paid yr halen â bod yn hallt, â pha beth y rhowch flas arno? Bydded gennych halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlon tuag at eich gilydd.”
Dewis Presennol:
Marc 9: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004

: