1 Cronicl 10:13-14
1 Cronicl 10:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Buodd Saul farw am ei fod wedi bod yn anffyddlon ac anufudd i’r ARGLWYDD. Roedd e hyd yn oed wedi troi at ddewiniaeth, yn lle gofyn am arweiniad yr ARGLWYDD. Felly dyma’r ARGLWYDD yn ei ladd ac yn rhoi ei frenhiniaeth i Dafydd fab Jesse.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 101 Cronicl 10:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bu Saul farw am iddo fradychu'r ARGLWYDD trwy anufuddhau i'w air, a throi at ddewiniaeth am arweiniad yn lle ceisio arweiniad gan yr ARGLWYDD. Felly lladdodd yr ARGLWYDD ef a rhoi'r frenhiniaeth i Ddafydd fab Jesse.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 101 Cronicl 10:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr ARGLWYDD, sef yn erbyn gair yr ARGLWYDD yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori â dewines, i ymofyn â hi; Ac heb ymgynghori â’r ARGLWYDD: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y frenhiniaeth i Dafydd mab Jesse.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 10