1 Cronicl 28:20
1 Cronicl 28:20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
meddai Dafydd wrth Solomon. “Bydd yn gryf a dewr! Bwrw iddi! Paid bod ag ofn na phanicio! Mae’r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda ti. Fydd e ddim yn dy adael di nac yn troi cefn arnat ti nes bydd y gwaith yma i gyd ar deml yr ARGLWYDD wedi’i orffen.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 281 Cronicl 28:20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Dafydd wrth ei fab Solomon, “Bydd yn gryf a dewr, a dechrau ar y gwaith; paid ag ofni na digalonni, oherwydd y mae'r ARGLWYDD Dduw, fy Nuw i, gyda thi; ni fydd yn cefnu arnat na'th adael cyn iti orffen y cyfan sy'n angenrheidiol at wasanaeth tŷ'r ARGLWYDD.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 281 Cronicl 28:20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfha, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac nac arswyda: canys yr ARGLWYDD DDUW, fy NUW i, fydd gyda thi; nid ymedy efe â thi, ac ni’th wrthyd, nes gorffen holl waith gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD.
Rhanna
Darllen 1 Cronicl 28