1 Corinthiaid 11:24-25
1 Corinthiaid 11:24-25 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl adrodd y weddi o ddiolch, dyma fe’n ei thorri a dweud, “Dyma fy nghorff, sy’n cael ei roi drosoch chi. Gwnewch hyn i gofio amdana i.” Wedyn gwnaeth yr un peth ar ôl swper pan gymerodd y cwpan a dweud, “Mae’r cwpan yma’n cynrychioli’r ymrwymiad newydd mae Duw’n ei wneud, wedi’i selio gyda fy ngwaed i. Gwnewch hyn i gofio amdana i bob tro y byddwch yn yfed ohono.”
1 Corinthiaid 11:24-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ac wedi iddo ddiolch, fe'i torrodd, a dweud, “Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf.” Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan, ar ôl swper, gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i. Gwnewch hyn, bob tro yr yfwch ef, er cof amdanaf.”
1 Corinthiaid 11:24-25 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi iddo ddiolch, efe a’i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf.