1 Corinthiaid 2:6-16
1 Corinthiaid 2:6-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ac eto mae’r neges dŷn ni’n ei chyhoeddi yn neges ddoeth, ac mae’r bobl sy’n gwrando arni yn dangos eu bod nhw’n bobl aeddfed. Ond dim ffordd ein hoes ni o edrych ar bethau ydy hi. A dim ffordd y rhai sy’n llywodraethu chwaith – mae hi ar ben arnyn nhw beth bynnag! Na, dirgelwch gan Dduw ydy’r doethineb dŷn ni’n sôn amdano. Roedd wedi’i guddio yn y gorffennol, er fod Duw wedi’i drefnu cyn i amser ddechrau. Roedd wedi’i gadw i ni gael rhannu ei ysblander drwyddo. Ond wnaeth y rhai sy’n llywodraethu ddim deall. Petaen nhw wedi deall fydden nhw ddim wedi croeshoelio ein Harglwydd bendigedig ni. Fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud: “Welodd yr un llygad, chlywodd yr un glust; wnaeth neb ddychmygu beth mae Duw wedi’i baratoi i’r rhai sy’n ei garu.” Ond dŷn ni wedi deall, am fod Ysbryd Duw wedi’i esbonio i ni – ac mae’r Ysbryd yn gwybod cyfrinachau Duw i gyd! Pwy sy’n gwybod beth sydd ar feddwl rhywun arall? Does neb, dim ond y person ei hun. Felly Ysbryd Duw ydy’r unig un sy’n gwybod beth sydd ar feddwl Duw. A dŷn ni ddim yn edrych ar bethau o safbwynt y byd – mae Duw wedi rhoi ei Ysbryd i ni er mwyn i ni allu deall yr holl bethau gwych sydd ganddo ar ein cyfer ni. A dyma’r union neges dŷn ni’n ei rhannu – dim rhannu ein syniadau doeth ein hunain ond beth mae’r Ysbryd yn ei ddweud. Dŷn ni’n rhannu gwirioneddau ysbrydol gyda phobl sydd wedi derbyn yr Ysbryd. Os ydy’r Ysbryd ddim gan bobl, dŷn nhw ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud – maen nhw’n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall. Os ydy’r Ysbryd gynnon ni, mae’r cwbl yn gwneud sens! Ond dydy pobl eraill ddim yn ein deall ni: “Pwy sy’n gallu honni ei fod yn deall meddwl yr Arglwydd? Pwy sy’n gallu rhoi cyngor iddo?” Ond mae’r gallu gynnon ni i weld pethau o safbwynt y Meseia.
1 Corinthiaid 2:6-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Eto yr ydym ni yn llefaru doethineb ymhlith y rhai aeddfed, ond nid doethineb yr oes bresennol, na'r eiddo llywodraethwyr yr oes bresennol, sydd ar ddarfod amdanynt. Ond yr ydym ni'n llefaru doethineb Duw a'i dirgelwch, doethineb guddiedig, a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i'n dwyn i'n gogoniant. Nid adnabu neb o lywodraethwyr yr oes bresennol mo'r ddoethineb hon; oherwydd pe buasent wedi ei hadnabod, ni fuasent wedi croeshoelio Arglwydd y gogoniant. Ond fel y mae'n ysgrifenedig: “Pethau na welodd llygad, ac na chlywodd clust, ac na ddaeth i feddwl neb, y cwbl a ddarparodd Duw ar gyfer y rhai sy'n ei garu.” Eithr datguddiodd Duw hwy i ni trwy'r Ysbryd. Oblegid y mae'r Ysbryd yn plymio pob peth, hyd yn oed ddyfnderoedd Duw. Oherwydd pwy sy'n deall y natur ddynol, ond yr ysbryd sydd ym mhob un? Yr un modd nid oes neb yn gwybod natur Duw, ond Ysbryd Duw. Ond nyni, nid ysbryd y byd a dderbyniasom, ond yr Ysbryd sydd oddi wrth Dduw, er mwyn inni wybod y pethau a roddodd Duw o'i ras i ni. Yr ydym yn mynegi'r rhain mewn geiriau a ddysgwyd i ni, nid gan ddoethineb ddynol, ond gan yr Ysbryd, gan esbonio pethau ysbrydol i'r rhai sydd yn meddu'r Ysbryd. Nid yw'r rhai anianol yn derbyn pethau Ysbryd Duw, oherwydd ffolineb ydynt iddynt hwy, ac ni allant eu hamgyffred, gan mai mewn modd ysbrydol y maent yn cael eu barnu. Y mae'r rhai ysbrydol yn barnu pob peth, ond ni chânt hwy eu barnu gan neb. Yng ngeiriau'r Ysgrythur
1 Corinthiaid 2:6-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A doethineb yr ydym ni yn ei llefaru ymysg rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn, na thywysogion y byd hwn, y rhai sydd yn diflannu. Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb Duw mewn dirgelwch, sef y ddoethineb guddiedig, yr hon a ragordeiniodd Duw cyn yr oesoedd i’n gogoniant ni: Yr hon nid adnabu neb o dywysogion y byd hwn: oherwydd pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant. Eithr fel y mae yn ysgrifenedig, Ni welodd llygad, ac ni chlywodd clust, ac ni ddaeth i galon dyn, y pethau a ddarparodd Duw i’r rhai a’i carant ef. Eithr Duw a’u heglurodd i ni trwy ei Ysbryd: canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth; ie, dyfnion bethau Duw hefyd. Canys pa ddyn a edwyn bethau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? felly hefyd, pethau Duw nid edwyn neb, ond Ysbryd Duw. A nyni a dderbyniasom, nid ysbryd y byd, ond yr Ysbryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau a rad roddwyd i ni gan Dduw. Y rhai yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid â’r geiriau a ddysgir gan ddoethineb ddynol, ond a ddysgir gan yr Ysbryd Glân; gan gydfarnu pethau ysbrydol â phethau ysbrydol. Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn y pethau sydd o Ysbryd Duw: canys ffolineb ydynt ganddo ef; ac nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y bernir hwynt. Ond yr hwn sydd ysbrydol, sydd yn barnu pob peth; eithr efe nis bernir gan neb. Canys pwy a wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn a’i cyfarwydda ef? Ond y mae gennym ni feddwl Crist.