1 Corinthiaid 3:10-15
1 Corinthiaid 3:10-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
fi gafodd y fraint a’r cyfrifoldeb o osod y sylfaen (fel adeiladwr profiadol), ac mae rhywun arall yn codi’r adeilad ar y sylfaen. Ond rhaid bod yn ofalus wrth adeiladu, am mai dim ond un sylfaen sy’n gwneud y tro i adeiladu arni, sef Iesu y Meseia. Mae’n bosib adeiladu ar y sylfaen gydag aur, arian, a gemau gwerthfawr, neu gyda choed, gwair a gwellt – bydd safon gwaith pawb yn amlwg ar Ddydd y farn. Tân fydd yn profi ansawdd y gwaith sydd wedi’i wneud. Os bydd yr adeilad yn dal i sefyll, bydd yr adeiladwr yn cael ei wobrwyo. Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw’n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub – ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw’n llwyddo i ddianc o’r fflamau!
1 Corinthiaid 3:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn ôl y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras, mi osodais sylfaen, fel prifadeiladydd celfydd, ac y mae rhywun arall yn adeiladu arni. Gwylied pob un pa fodd y mae'n adeiladu arni. Ni all neb osod sylfaen arall yn lle'r un sydd wedi ei gosod, ac Iesu Grist yw honno. Os bydd i neb adeiladu ar y sylfaen ag aur, arian, a meini gwerthfawr, neu â choed, gwair, a gwellt, daw gwaith pob un i'r amlwg, oherwydd y Dydd a'i dengys. Canys â thân y datguddir y Dydd hwnnw, a bydd y tân yn profi ansawdd gwaith pob un. Os bydd y gwaith a adeiladodd rhywun ar y sylfaen yn aros, caiff dâl. Os llosgir gwaith rhywun, caiff ddwyn y golled, ond fe achubir yr adeiladydd ei hun, ond dim ond megis trwy dân.
1 Corinthiaid 3:10-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu. Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw’r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist. Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl; Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a’i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a’r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw. Os gwaith neb a erys, yr hwn a oruwch adeiladodd ef, efe a dderbyn wobr. Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân.