1 Ioan 2:1-2
1 Ioan 2:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fy mhlant annwyl, dw i’n ysgrifennu hyn atoch chi er mwyn eich helpu chi i beidio pechu. Ond os bydd rhywun yn pechu, mae gynnon ni un gyda’r Tad sy’n pledio ar ein rhan ni, sef Iesu Grist, sy’n berffaith gyfiawn a da. Fe ydy’r aberth wnaeth iawn am ein pechodau ni, ac nid dim ond ein pechodau ni, ond pechodau’r byd i gyd.
1 Ioan 2:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fy mhlant, yr wyf yn ysgrifennu'r pethau hyn atoch i'ch cadw rhag pechu. Ond os bydd i rywun bechu, y mae gennym Eiriolwr gyda'r Tad, sef Iesu Grist, y cyfiawn; ac ef sy'n aberth cymod dros ein pechodau, ac nid dros ein pechodau ni yn unig, ond hefyd bechodau'r holl fyd.
1 Ioan 2:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Fy mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, fel na phechoch. Ac o phecha neb, y mae i ni Eiriolwr gyda’r Tad, Iesu Grist y Cyfiawn: Ac efe yw’r iawn dros ein pechodau ni: ac nid dros yr eiddom ni yn unig, eithr dros bechodau yr holl fyd.