1 Ioan 2:15-17
1 Ioan 2:15-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Peidiwch caru’r byd a’i bethau. Os dych chi’n caru’r byd, allwch chi ddim bod yn caru’r Tad hefyd. Y cwbl mae’r byd yn ei gynnig ydy blys am bleserau corfforol, chwant am bethau materol, a brolio am beth sydd gynnon ni a beth dŷn ni wedi’i gyflawni. O’r byd mae pethau felly’n dod, ddim oddi wrth y Tad. Mae’r byd hwn a’i chwantau yn dod i ben, ond mae’r sawl sy’n gwneud beth mae Duw eisiau yn byw am byth.
1 Ioan 2:15-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo, oherwydd y cwbl sydd yn y byd—trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau—nid o'r Tad y mae, ond o'r byd. Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.
1 Ioan 2:15-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na cherwch y byd, na’r pethau sydd yn y byd. O châr neb y byd, nid yw cariad y Tad ynddo ef. Canys pob peth a’r sydd yn y byd, megis chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd, nid yw o’r Tad, eithr o’r byd y mae. A’r byd sydd yn myned heibio, a’i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn dragywydd.