1 Ioan 2:27
1 Ioan 2:27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond gan eich bod chi wedi cael eich eneinio – ac mae’r Ysbryd a’ch eneiniodd chi yn aros ynoch chi – does dim angen i neb eich dysgu chi. Mae’r Ysbryd yn dysgu popeth i chi. Mae ei eneiniad yn real. Does dim byd ffug ynglŷn â’r peth! Felly gwnewch beth mae’n ei ddweud – glynwch wrth Iesu.
1 Ioan 2:27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
A chwithau, y mae'r eneiniad a gawsoch ganddo ef yn aros ynoch, ac nid oes arnoch angen neb i'ch dysgu; ond y mae'r eneiniad a roddodd ef yn eich dysgu am bopeth, a gwir yw, nid celwydd. Fel y dysgodd ef chwi, arhoswch ynddo ef.
1 Ioan 2:27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond y mae’r eneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisiau dysgu o neb chwi; eithr fel y mae’r un eneiniad yn eich dysgu chwi am bob peth, a gwir yw, ac nid yw gelwydd; ac megis y’ch dysgodd chwi, yr arhoswch ynddo.