1 Ioan 3:21-24
1 Ioan 3:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gyfeillion annwyl, os nad yw'n calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder gerbron Duw, ac yr ydym yn derbyn ganddo ef bob dim yr ydym yn gofyn amdano, am ein bod yn cadw ei orchmynion ac yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd. Dyma ei orchymyn: ein bod i gredu yn enw ei Fab ef, Iesu Grist, a charu'n gilydd, yn union fel y rhoddodd ef orchymyn inni. Y mae'r sawl sy'n cadw ei orchmynion ef yn aros ynddo ef, ac ef ynddo yntau. Dyma sut yr ydym yn gwybod ei fod ef yn aros ynom ni: trwy'r Ysbryd a roddodd ef inni.
1 Ioan 3:21-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ffrindiau annwyl, os ydy’r gydwybod yn glir gallwn sefyll yn hyderus o flaen Duw. Gan ein bod yn ufudd iddo ac yn gwneud beth sy’n ei blesio, bydd yn rhoi i ni beth bynnag ofynnwn ni amdano. A dyma’i orchymyn e: ein bod ni i gredu yn enw ei Fab, Iesu y Meseia, a charu’n gilydd yn union fel y dwedodd wrthon ni. Mae’r rhai sy’n ufudd iddo yn byw ynddo, ac mae ei fywyd e ynddyn nhw. A dŷn ni’n gwybod fod ei fywyd e ynon ni am ei fod e wedi rhoi’r Ysbryd i ni.
1 Ioan 3:21-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Anwylyd, os ein calon ni’n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw. A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. A hwn yw ei orchymyn ef; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megis y rhoes efe orchymyn i ni. A’r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o’r Ysbryd a roddes efe i ni.