1 Brenhinoedd 10:1-13
1 Brenhinoedd 10:1-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon, a’r clod roedd yn ei roi i’r ARGLWYDD. Felly dyma hi’n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd. Cyrhaeddodd Jerwsalem gyda’i gwarchodlu yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario perlysiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a’i holi am bob peth oedd ar ei meddwl. Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi. Roedd y frenhines wedi’i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi’i adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a’r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i’r ARGLWYDD yn y deml. A dyma hi’n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir – yr holl bethau rwyt ti wedi’u cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti. Doeddwn i ddim wedi credu’r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â’m llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb a dy gyfoeth di’n fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i. Mae’r bobl yma wedi’u bendithio’n fawr – y gweision sy’n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di. Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i eistedd ar orsedd Israel! Mae wedi dy wneud di yn frenin am ei fod yn caru Israel, i ti lywodraethu’n gyfiawn ac yn deg.” A dyma hi’n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o berlysiau a gemau gwerthfawr i’r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau â’r hyn roedd brenhines Sheba wedi’i roi i’r Brenin Solomon. (Roedd llongau Hiram, oedd yn cario aur o Offir, wedi dod â llwythi lawer o goed arbennig hefyd, sef pren Almug, a gemau gwerthfawr. Dyma’r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a phalas y brenin o’r pren Almug, a hefyd telynau a nablau i’r cerddorion. Does neb wedi gweld cymaint o bren Almug ers hynny!) Wedyn, dyma’r Brenin Solomon yn rhoi popeth roedd hi eisiau i frenhines Sheba. Roedd hyn ar ben y cwbl roedd e wedi’i roi iddi o’i haelioni ei hun. A dyma hi’n mynd yn ôl adre i’w gwlad ei hun gyda’i gweision.
1 Brenhinoedd 10:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd brenhines Sheba am fri Solomon, daeth i'w brofi â chwestiynau caled. Daeth i Jerwsalem gyda gosgordd niferus iawn—camelod yn cludo peraroglau a stôr fawr o aur a gemau. Pan ddaeth hi at Solomon, dywedodd wrtho'r cwbl oedd ar ei meddwl, ac atebodd yntau bob un o'i gofyniadau; nid oedd dim yn rhy dywyll i'r brenin ei esbonio iddi. A phan welodd brenhines Sheba holl ddoethineb Solomon, a'r tŷ a adeiladodd, ac arlwy ei fwrdd, eisteddiad ei swyddogion, gwasanaeth ei weision a'i drulliaid yn eu lifrai, a'r poethoffrymau y byddai'n eu hoffrymu i'r ARGLWYDD, diffygiodd ei hysbryd. Addefodd wrth y brenin, “Gwir oedd yr hyn a glywais yn fy ngwlad amdanat ac am dy ddoethineb. Eto nid oeddwn yn credu'r hanes nes imi ddod a gweld â'm llygaid fy hun—ac wele, ni ddywedwyd mo'r hanner wrthyf! Y mae dy ddoethineb a'th gyfoeth yn rhagori ar yr hyn a glywais. Gwyn fyd dy wŷr, y gweision hyn sy'n gweini'n feunyddiol arnat ac yn clywed dy ddoethineb. Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a'th hoffodd di ddigon i'th osod ar orseddfainc Israel. Am i'r ARGLWYDD garu Israel am byth, y mae wedi dy roi di'n frenin, i weinyddu barn a chyfiawnder.” Yna rhoddodd hi i'r brenin chwe ugain talent o aur a llawer iawn o beraroglau a gemau. Ni chafwyd byth wedyn gymaint o beraroglau ag a roddodd brenhines Sheba i'r Brenin Solomon. Byddai llynges Hiram yn dod ag aur o Offir; byddai hefyd yn cludo o Offir lawer iawn o goed almug a gemau. Gwnaeth y brenin fracedau i dŷ'r ARGLWYDD ac i dŷ'r brenin o'r coed almug, a hefyd delynau a nablau i'r cantorion. Ni ddaeth ac ni welwyd cystal coed almug hyd heddiw. Rhoddodd y Brenin Solomon i frenhines Sheba bopeth a chwenychodd, yn ychwaneg at yr hyn a roddodd iddi o'i haelioni brenhinol. Yna troes hi a'i gosgordd yn ôl i'w gwlad.
1 Brenhinoedd 10:1-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan glybu brenhines Seba glod Solomon am enw yr ARGLWYDD, hi a ddaeth i’w brofi ef â chwestiynau caled. A hi a ddaeth i Jerwsalem â llu mawr iawn, â chamelod yn dwyn aroglau, ac aur lawer iawn, a meini gwerthfawr. A hi a ddaeth at Solomon, ac a lefarodd wrtho ef yr hyn oll oedd yn ei chalon. A Solomon a fynegodd iddi hi ei holl ofynion: nid oedd dim yn guddiedig rhag y brenin, a’r na fynegodd efe iddi hi. A phan welodd brenhines Seba holl ddoethineb Solomon, a’r tŷ a adeiladasai efe, A bwyd ei fwrdd, ac eisteddiad ei weision, a threfn ei weinidogion, a’u dillad hwynt, a’i drulliadau ef, a’i esgynfa ar hyd yr hon yr âi efe i fyny i dŷ yr ARGLWYDD; nid oedd mwyach ysbryd ynddi. A hi a ddywedodd wrth y brenin, Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad am dy ymadroddion di, ac am dy ddoethineb. Eto ni chredais y geiriau, nes i mi ddyfod, ac i’m llygaid weled: ac wele, ni fynegasid i mi yr hanner: mwy yw dy ddoethineb a’th ddaioni na’r clod a glywais i. Gwyn fyd dy wŷr di, gwyn fyd dy weision hyn, y rhai sydd yn sefyll yn wastadol ger dy fron di, yn clywed dy ddoethineb. Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a’th hoffodd di, i’th roddi ar deyrngadair Israel: oherwydd cariad yr ARGLWYDD tuag at Israel yn dragywydd, y gosododd efe di yn frenin, i wneuthur barn a chyfiawnder. A hi a roddes i’r brenin chwech ugain talent o aur, a pheraroglau lawer iawn, a meini gwerthfawr. Ni ddaeth y fath beraroglau mwyach, cyn amled â’r rhai a roddodd brenhines Seba i’r brenin Solomon. A llongau Hiram hefyd, y rhai a gludent aur o Offir, a ddygasant o Offir lawer iawn o goed almugim, ac o feini gwerthfawr. A’r brenin a wnaeth o’r coed almugim anelau i dŷ yr ARGLWYDD, ac i dŷ y brenin, a thelynau a saltringau i gantorion. Ni ddaeth y fath goed almugim, ac ni welwyd hyd y dydd hwn. A’r brenin Solomon a roddes i frenhines Seba ei holl ddymuniad, yr hyn a ofynnodd hi, heblaw yr hyn a roddodd Solomon iddi hi o’i frenhinol haelioni. Felly hi a ddychwelodd, ac a aeth i’w gwlad, hi a’i gweision.