Logo YouVersion
Eicon Chwilio

1 Brenhinoedd 11:2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

1 Brenhinoedd 11:2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma’r gwledydd roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio pobl Israel amdanyn nhw: “Peidiwch cael perthynas gyda nhw. Maen nhw’n siŵr o’ch denu chi ar ôl eu duwiau.” Ond roedd Solomon yn dal i gael perthynas rywiol gyda nhw i gyd.

1 Brenhinoedd 11:2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

y cenhedloedd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid amdanynt, “Peidiwch â'u priodi, a pheidiwch â rhoi mewn priodas iddynt; byddant yn sicr o'ch hudo i ddilyn eu duwiau.” Ond dal i'w caru a wnâi Solomon.

1 Brenhinoedd 11:2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

O’r cenhedloedd am y rhai y dywedasai yr ARGLWYDD wrth feibion Israel, Nac ewch i mewn atynt hwy, ac na ddeuant hwythau i mewn atoch chwi: diau y troant eich calonnau chwi ar ôl eu duwiau hwynt. Wrthynt hwy y glynodd Solomon mewn cariad.