1 Brenhinoedd 19:10
1 Brenhinoedd 19:10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yntau, “Bûm i'n selog iawn dros ARGLWYDD Dduw y Lluoedd; cefnodd yr Israeliaid ar dy gyfamod, a bwrw d'allorau i lawr, a lladd dy broffwydi â'r cleddyf; myfi'n unig sydd ar ôl, ac y maent yn ceisio f'einioes innau.”
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 191 Brenhinoedd 19:10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd, Dygais fawr sêl dros ARGLWYDD DDUW y lluoedd; oherwydd i feibion Israel wrthod dy gyfamod di, a distrywio dy allorau di, a lladd dy broffwydi â’r cleddyf: a mi fy hunan a adawyd; a cheisio y maent ddwyn fy einioes innau.
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 191 Brenhinoedd 19:10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A dyma fe’n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i’r ARGLWYDD, y Duw hollbwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 19