1 Brenhinoedd 3:1-28
1 Brenhinoedd 3:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwnaeth Solomon gynghrair â Pharo brenin yr Aifft trwy briodi ei ferch. Daeth â hi i Ddinas Dafydd i fyw nes iddo ddarfod adeiladu ei dŷ ei hun a thŷ'r ARGLWYDD, a'r mur o amgylch Jerwsalem. Yr oedd y bobl yn dal i aberthu mewn uchelfeydd, am nad oedd tŷ i enw'r ARGLWYDD eto wedi ei adeiladu. Yr oedd Solomon yn caru'r ARGLWYDD, gan rodio yn ôl deddfau ei dad Dafydd, ond yn aberthu ac yn arogldarthu mewn uchelfeydd. Aeth y brenin i aberthu i Gibeon. Honno oedd y brif uchelfa; mil o boethoffrymau a offrymai Solomon ar yr allor yno. Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon yn Gibeon mewn breuddwyd liw nos; a dywedodd DUW, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf.” Dywedodd Solomon, “Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw. Yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, gwnaethost dy was yn frenin yn lle fy nhad Dafydd, a minnau'n llanc ifanc, dibrofiad. Ac y mae dy was yng nghanol dy ddewis bobl, sy'n rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif. Felly rho i'th was galon ddeallus i farnu dy bobl, i ddirnad da a drwg; oherwydd pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?” Bu'n dderbyniol yng ngolwg yr ARGLWYDD i Solomon ofyn y peth hwn, a dywedodd Duw wrtho, “Oherwydd iti ofyn hyn, ac nid gofyn i ti dy hun flynyddoedd lawer, na chyfoeth, nac einioes dy elynion, ond gofyn deall wrth wrando achos, gwnaf yn ôl dy eiriau. Rhoddaf iti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o'th flaen, ac na chyfyd chwaith ar dy ôl. Rhoddaf hefyd iti yr hyn nis gofynnaist, sef cyfoeth a gogoniant, fel na bydd dy fath ymysg brenhinoedd, dy holl ddyddiau di. Ac os bydd iti rodio yn fy ffyrdd, a chadw fy neddfau a'm gorchmynion, fel y rhodiodd dy dad Dafydd, estynnaf dy ddyddiau hefyd.” Deffrôdd Solomon, a sylweddoli mai breuddwyd oedd. Pan ddaeth yn ôl i Jerwsalem, safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD ac offrymodd boethoffrymau a heddoffrymau, a gwnaeth wledd i'w holl weision. Daeth dwy buteinwraig at y brenin a sefyll o'i flaen. Dywedodd y naill, “O f'arglwydd, roeddwn i a'r wraig hon yn byw yn yr un tŷ, ac esgorais ar blentyn yn y tŷ, a hithau yno. Tridiau wedi i mi esgor, esgorodd y wraig hon hefyd, heb neb ond ni'n dwy yn y tŷ. Bu farw plentyn y wraig hon yn y nos, am iddi orwedd arno; cododd hithau yn ystod y nos a chymryd fy mab o'm hymyl tra oeddwn i, dy lawforwyn, yn cysgu, a'i gymryd i'w chôl a gosod ei phlentyn marw yn fy nghôl i. Pan godais yn y bore i roi sugn i'm mab, yr oedd yn farw; ond wedi imi graffu arno yn y bore, nid hwnnw oedd y mab yr esgorais i arno.” Meddai'r wraig arall, “Na, fy mab i yw'r un byw; dy fab di yw'r un marw.” Yna, dyma'r gyntaf yn dweud, “Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw.” Taeru felly y buont gerbron y brenin. Yna dywedodd y brenin, “Y mae'r naill yn dweud, ‘Hwn yw fy mab i, y byw; yr un marw yw dy fab di.’ Ac y mae'r llall yn dweud, ‘Na, dy fab di yw'r marw; fy mab i yw'r byw.’ ” Yna dywedodd y brenin, “Dewch â chleddyf imi.” Pan ddaethant â'r cleddyf gerbron y brenin, ebe'r brenin, “Rhannwch y bachgen byw yn ddau, a rhowch hanner i'r naill a hanner i'r llall.” Ond meddai'r wraig oedd piau'r plentyn byw wrth y brenin (oherwydd enynnodd ei thosturi tuag at ei baban), “O f'arglwydd, rhowch iddi hi y plentyn byw, a pheidiwch â'i ladd ar un cyfrif.” Ond dywedodd y llall, “Na foed yn eiddo i mi na thithau; rhannwch ef.” Atebodd y brenin, “Peidiwch â'i ladd; rhowch y plentyn byw i'r gyntaf; honno yw ei fam.” Clywodd holl Israel ddyfarniad y brenin, ac ofnasant ef, am eu bod yn gweld ynddo ddoethineb ddwyfol i weinyddu barn.
1 Brenhinoedd 3:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Solomon yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda’r Pharo, brenin yr Aifft, drwy briodi ei ferch. Daeth â hi i fyw i ddinas Dafydd tra oedd yn gorffen adeiladu palas iddo’i hun, teml i’r ARGLWYDD a’r waliau o gwmpas Jerwsalem. Yr adeg yna, roedd y bobl yn dal i aberthu anifeiliaid ar allorau lleol am nad oedd teml i anrhydeddu’r ARGLWYDD wedi’i hadeiladu eto. Roedd Solomon yn caru’r ARGLWYDD ac yn dilyn yr un polisïau â’i dad, Dafydd. Er, roedd e hefyd yn aberthu anifeiliaid ac yn llosgi arogldarth wrth yr allorau lleol. Byddai’n mynd i Gibeon, am mai’r allor leol yno oedd yr un bwysicaf. Aberthodd fil o anifeiliaid yno, yn offrymau i’w llosgi’n llwyr. Yna un noson pan oedd yn Gibeon dyma Solomon yn cael breuddwyd. Gwelodd yr ARGLWYDD yn dod ato a gofyn iddo, “Beth wyt ti eisiau i mi ei roi i ti?” Atebodd Solomon, “Roeddet ti’n garedig iawn at Dafydd fy nhad wrth iddo fyw yn ffyddlon i ti, yn gywir ac yn onest. Ac rwyt ti wedi dal ati i fod yn arbennig o garedig drwy adael i mi, ei fab, fod yn frenin yn ei le. A nawr, ARGLWYDD, fy Nuw, ti wedi fy ngwneud i yn frenin yn lle fy nhad Dafydd. Ond dyn ifanc dibrofiad ydw i, a dyma fi yng nghanol y bobl rwyt ti wedi’u dewis. Mae yna gymaint ohonyn nhw mae’n amhosibl eu cyfrif nhw i gyd! Rho i mi’r gallu i wrando a deall, er mwyn i mi lywodraethu dy bobl di’n iawn a gallu dweud y gwahaniaeth rhwng drwg a da. Fel arall, pa obaith sydd i unrhyw un lywodraethu cenedl mor fawr?” Roedd ateb Solomon a’r hyn roedd wedi gofyn amdano yn plesio yr ARGLWYDD yn fawr. A dyma Duw’n dweud wrtho, “Am mai dyna rwyt ti wedi gofyn amdano – y gallu i lywodraethu yn ddoeth – a dy fod ti ddim wedi gofyn am gael byw yn hir, neu am gyfoeth mawr, neu i dy elynion gael eu lladd, dw i’n mynd i roi’r hyn rwyt ti eisiau i ti. Dw i’n mynd i dy wneud di’n fwy doeth a deallus nag unrhyw un ddaeth o dy flaen neu ddaw ar dy ôl. Ond dw i hefyd yn mynd i roi i ti beth wnest ti ddim gofyn amdano, cyfoeth ac anrhydedd. Fydd yna ddim brenin tebyg i ti tra byddi byw. Ac os byddi di’n byw yn ufudd i mi ac yn cadw fy rheolau i fel roedd dy dad Dafydd yn gwneud, bydda i’n rhoi oes hir i ti.” Yna dyma Solomon yn deffro a sylweddoli ei fod wedi bod yn breuddwydio. Aeth i Jerwsalem a sefyll o flaen Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD. Cyflwynodd offrymau i’w llosgi ac offrymau i ofyn am fendith yr ARGLWYDD, a chynnal gwledd i’w swyddogion i gyd. Yn fuan wedyn, dyma ddwy ferch yn mynd at y brenin. Roedden nhw’n buteiniaid. Dyma un o’r merched yn dweud, “Syr, dw i a’r ferch yma yn byw yn yr un tŷ. Ces i fabi tra oedden ni gyda’n gilydd yn y tŷ. Yna dridiau wedyn dyma hithau’n cael babi. Doedd yna neb arall yn y tŷ, dim ond ni’n dwy. Un noson dyma’i mab hi’n marw; roedd hi wedi gorwedd arno. Cododd yn y nos a chymryd fy mab i oedd wrth fy ymyl tra oeddwn i’n cysgu. Cymrodd fy mab i i’w chôl a rhoi ei phlentyn marw hi yn fy mreichiau i. Pan wnes i ddeffro yn y bore i fwydo’r babi, roedd e wedi marw. Ond wrth edrych yn fanwl, dyma fi’n sylweddoli mai nid fy mab i oedd e.” Yna dyma’r ferch arall yn dweud, “Na! Fy mab i ydy’r un byw. Dy fab di sydd wedi marw.” A dyma’r gyntaf yn ateb, “Nage, yr un marw ydy dy fab di. Fy mab i ydy’r un byw.” Roedd y ddwy ohonyn nhw’n dadlau â’i gilydd fel hyn o flaen y brenin. Yna dyma’r brenin yn dweud, “Mae un ohonoch chi’n dweud, ‘Fy mab i ydy hwn; mae dy fab di wedi marw’, a’r llall yn dweud, ‘Na! Dy fab di sydd wedi marw; fy mab i ydy’r un byw.’” Yna dyma’r brenin yn gorchymyn i’w weision, “Dewch â chleddyf i mi.” A dyma nhw’n dod ag un iddo. Wedyn dyma’r brenin yn dweud, “Torrwch y plentyn byw yn ei hanner, a rhowch hanner bob un iddyn nhw.” Ond dyma fam y plentyn byw yn ymateb a dweud wrth y brenin, “Syr, rho’r plentyn byw iddi hi. Da chi paid â’i ladd e.” (Roedd hi’n torri ei chalon wrth feddwl am y plentyn yn cael ei ladd.) Ond roedd y llall yn dweud, “Os nad ydw i’n ei gael e, gei di mohono chwaith – rhannwch e!” Yna dyma’r brenin yn dweud, “Rhowch y plentyn byw i’r wraig gyntaf. Peidiwch ei ladd e. Hi ydy’r fam.” Pan glywodd pobl Israel am y ffordd roedd y brenin wedi setlo’r achos, roedden nhw’n rhyfeddu. Roedden nhw’n gweld fod Duw wedi rhoi doethineb anghyffredin iddo allu barnu fel yma.
1 Brenhinoedd 3:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Solomon a ymgyfathrachodd â Pharo brenin yr Aifft, ac a briododd ferch Pharo, ac a’i dug hi i ddinas Dafydd, nes darfod iddo adeiladu ei dŷ ei hun, a thŷ yr ARGLWYDD, a mur Jerwsalem oddi amgylch. Eto y bobl oedd yn aberthu mewn uchelfaoedd, oherwydd nad adeiladasid tŷ i enw yr ARGLWYDD, hyd y dyddiau hynny. A Solomon a garodd yr ARGLWYDD, gan rodio yn neddfau Dafydd ei dad: eto mewn uchelfaoedd yr oedd efe yn aberthu ac yn arogldarthu. A’r brenin a aeth i Gibeon i aberthu yno: canys honno oedd uchelfa fawr. Mil o boethoffrymau a offrymodd Solomon ar yr allor honno. Yn Gibeon yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon mewn breuddwyd liw nos: a dywedodd DUW, Gofyn beth a roddaf i ti. A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw. Ac yn awr, O ARGLWYDD fy NUW, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn. A’th was sydd ymysg dy bobl, y rhai a ddewisaist ti; pobl aml, y rhai ni rifir ac nis cyfrifir gan luosowgrwydd. Am hynny dyro i’th was galon ddeallus, i farnu dy bobl, i ddeall rhagor rhwng da a drwg: canys pwy a ddichon farnu dy luosog bobl hyn? A’r peth fu dda yng ngolwg yr ARGLWYDD, am ofyn o Solomon y peth hyn. A DUW a ddywedodd wrtho, Oherwydd gofyn ohonot y peth hyn, ac na ofynnaist i ti ddyddiau lawer, ac na ofynnaist i ti olud, ac na cheisiaist einioes dy elynion, eithr gofynnaist i ti ddeall i wrando barn: Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o’th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl. A rhoddais i ti hefyd yr hyn nis gofynnaist, golud, a gogoniant hefyd; fel na byddo un o’th fath ymysg y brenhinoedd, dy holl ddyddiau di. Ac os rhodi yn fy ffyrdd i, gan gadw fy neddfau a’m gorchmynion, megis y rhodiodd Dafydd dy dad, estynnaf hefyd dy ddyddiau di. A Solomon a ddeffrôdd; ac wele, breuddwyd oedd. Ac efe a ddaeth i Jerwsalem, ac a safodd o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac a offrymodd offrymau poeth, ac a aberthodd aberthau hedd, ac a wnaeth wledd i’w holl weision. Yna dwy wraig o buteiniaid a ddaethant at y brenin, ac a safasant ger ei fron ef. A’r naill wraig a ddywedodd, O fy arglwydd, myfi a’r wraig hon oeddem yn trigo yn yr un tŷ; a mi a esgorais yn tŷ gyda hi. Ac ar y trydydd dydd wedi esgor ohonof fi, yr esgorodd y wraig hon hefyd; ac yr oeddem ni ynghyd, heb arall yn tŷ gyda ni, ond nyni ein dwyoedd yn tŷ. A mab y wraig hon a fu farw liw nos; oherwydd hi a orweddodd arno ef. A hi a gododd yng nghanol y nos, ac a gymerodd fy mab i o’m hymyl, tra yr ydoedd dy lawforwyn yn cysgu, ac a’i gosododd ef yn ei mynwes hi, a’i mab marw hi a osododd hi yn fy mynwes innau. A phan godais i y bore i beri i’m mab sugno, wele, marw oedd efe; ac wedi i mi ddal arno y bore, wele, nid fy mab i, yr hwn a esgoraswn i, ydoedd efe. A’r wraig arall a ddywedodd, Nage; eithr fy mab i yw y byw, a’th fab dithau yw y marw. A hon a ddywedodd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab i yw y byw. Fel hyn y llefarasant o flaen y brenin. Yna y dywedodd y brenin, Hon sydd yn dywedyd, Dyma fy mab i sydd fyw, a’th fab dithau yw y marw: a hon acw sydd yn dywedyd, Nage; eithr dy fab di yw y marw, a’m mab innau yw y byw. A dywedodd y brenin, Dygwch i mi gleddyf. A hwy a ddygasant gleddyf o flaen y brenin. A’r brenin a ddywedodd, Rhennwch y bachgen byw yn ddau, a rhoddwch yr hanner i’r naill, a’r hanner i’r llall. Yna y dywedodd y wraig bioedd y mab byw wrth y brenin, (canys ei hymysgaroedd a gynesasai wrth ei mab,) ac a lefarodd, O fy arglwydd, rhoddwch iddi hi y bachgen byw, ac na leddwch ef ddim: ond y llall a ddywedodd, Na fydded eiddof fi na thithau, eithr rhennwch ef. Yna yr atebodd y brenin, ac y dywedodd, Rhoddwch y bachgen byw iddi hi, ac na leddwch ef ddim: dyna ei fam ef. A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb DUW ynddo ef i wneuthur barn.