1 Brenhinoedd 3:6
1 Brenhinoedd 3:6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Solomon, “Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw.
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 31 Brenhinoedd 3:6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Atebodd Solomon, “Roeddet ti’n garedig iawn at Dafydd fy nhad wrth iddo fyw yn ffyddlon i ti, yn gywir ac yn onest. Ac rwyt ti wedi dal ati i fod yn arbennig o garedig drwy adael i mi, ei fab, fod yn frenin yn ei le.
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 31 Brenhinoedd 3:6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Solomon, Ti a wnaethost â’th was Dafydd fy nhad fawr drugaredd, megis y rhodiodd efe o’th flaen di mewn gwirionedd, ac mewn cyfiawnder, ac mewn uniondeb calon gyda thi; ie, cedwaist iddo y drugaredd fawr hon, a rhoddaist iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc, fel y gwelir heddiw.
Rhanna
Darllen 1 Brenhinoedd 3