1 Pedr 4:10-11
1 Pedr 4:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw. Pwy bynnag sy'n llefaru, llefared fel un sydd wedi derbyn oraclau Duw; os yw'n gwasanaethu, gwasanaethed fel un sydd wedi derbyn o'r nerth y mae Duw yn ei gyfrannu. Yr amcan ym mhob dim yw gogoneddu Duw trwy Iesu Grist. Iddo ef y perthyn y gogoniant a'r gallu byth bythoedd. Amen.
1 Pedr 4:10-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw yn ei haelioni wedi rhannu rhyw ddawn neu’i gilydd i bob un ohonoch, a dylech wneud defnydd da ohoni drwy wasanaethu pobl eraill. Dylai pwy bynnag sy’n siarad yn yr eglwys ddweud beth mae Duw am iddo’i ddweud. Dylai pwy bynnag sy’n gwasanaethu pobl eraill wneud hynny gyda’r nerth mae Duw yn ei roi. Wedyn bydd Duw yn cael ei ganmol a’i addoli drwy’r cwbl, o achos beth wnaeth Iesu Grist. Ie, fe sydd biau’r anrhydedd i gyd, a’r grym hefyd, a hynny am byth! Amen!
1 Pedr 4:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â’ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw. Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.