1 Pedr 5:8-9
1 Pedr 5:8-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwyliwch eich hunain! Byddwch yn effro! Mae’ch gelyn chi, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo ac yn edrych am rywun i’w lyncu. Safwch yn ei erbyn, a dal gafael yn beth dych chi’n ei gredu. Cofiwch fod eich cyd-Gristnogion drwy’r byd i gyd yn dioddef yr un fath.
1 Pedr 5:8-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd.
1 Pedr 5:8-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymddisgyblwch a byddwch effro. Y mae eich gwrthwynebydd, y diafol, yn prowla o gwmpas fel llew yn rhuo, gan chwilio am rywun i'w lyncu. Gwrthsafwch ef yn gadarn mewn ffydd, gan wybod fod eich cyd-Gristionogion yn y byd yn profi'r un math o ddioddefiadau.