1 Samuel 11:6-7
1 Samuel 11:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac ysbryd DUW a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a’i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr. Ac efe a gymerth bâr o ychen, ac a’u drylliodd, ac a’u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i’w wartheg ef. Ac ofn yr ARGLWYDD a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd.
1 Samuel 11:6-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan glywodd Saul hyn, dyma Ysbryd Duw yn dod arno’n rymus. Roedd wedi gwylltio’n lân. Dyma fe’n lladd pâr o ychen a’u torri nhw’n ddarnau mân, ac anfon negeswyr gyda’r darnau i bob ardal yn Israel. Roedden nhw i gyhoeddi fel hyn: “Pwy bynnag sy’n gwrthod cefnogi Saul a Samuel a dod allan i ymladd, dyma fydd yn digwydd i’w ychen e!” Roedd yr ARGLWYDD wedi codi ofn ar bawb, felly dyma nhw’n dod allan fel un dyn.
1 Samuel 11:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan glywodd y pethau hyn, disgynnodd ysbryd Duw ar Saul, a ffromodd yn enbyd. Cymerodd yr ychen a'u darnio a'u hanfon drwy holl derfynau Israel yn llaw y negeswyr gyda'r neges, “Pwy bynnag na ddaw allan ar ôl Saul a Samuel, dyma a wneir i'w ychen.” Syrthiodd ofn oddi wrth yr ARGLWYDD ar y genedl, a daethant allan fel un.