1 Samuel 13:13-14
1 Samuel 13:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ti wedi gwneud peth gwirion,” meddai Samuel wrtho. “Dylet ti fod wedi gwneud beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti. Petaet ti wedi bod yn ufudd byddai’r ARGLWYDD wedi cadw’r olyniaeth frenhinol yn dy deulu di am byth. Ond nawr, fydd hynny ddim yn digwydd. Mae’r ARGLWYDD wedi dod o hyd i ddyn sydd wrth ei fodd, ac wedi dewis hwnnw i arwain ei bobl, am dy fod ti heb gadw’i orchmynion.”
1 Samuel 13:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Samuel wrth Saul, “Buost yn ffôl; pe byddit wedi cadw'r gorchymyn a roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti, yn sicr byddai'r ARGLWYDD yn cadarnhau dy frenhiniaeth di ar Israel am byth. Ond yn awr, ni fydd dy frenhiniaeth yn sefyll. Bydd yr ARGLWYDD yn ceisio gŵr yn ôl ei galon, a bydd yr ARGLWYDD yn ei osod ef yn arweinydd ar ei bobl, am nad wyt ti wedi cadw'r hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD iti.”
1 Samuel 13:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Ynfyd y gwnaethost: ni chedwaist orchymyn yr ARGLWYDD dy DDUW, yr hwn a orchmynnodd efe i ti: canys yr ARGLWYDD yn awr a gadarnhasai dy frenhiniaeth di ar Israel yn dragywydd. Ond yn awr ni saif dy frenhiniaeth di: yr ARGLWYDD a geisiodd iddo ŵr wrth fodd ei galon ei hun: yr ARGLWYDD hefyd a orchmynnodd iddo fod yn flaenor ar ei bobl; oherwydd na chedwaist ti yr hyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD i ti.