1 Samuel 17:40
1 Samuel 17:40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cymerodd ei ffon yn ei law, dewisodd bum carreg lefn o'r nant a'u rhoi yn y bag bugail oedd ganddo fel poced, a nesaodd at y Philistiad â'i ffon dafl yn ei law
Rhanna
Darllen 1 Samuel 171 Samuel 17:40 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gafaelodd yn ei ffon fugail, dewisodd bum carreg lefn o’r sychnant a’u rhoi yn ei fag bugail. Yna aeth i wynebu’r Philistiad gyda’i ffon dafl yn ei law.
Rhanna
Darllen 1 Samuel 171 Samuel 17:40 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a gymerth ei ffon yn ei law, ac a ddewisodd iddo bump o gerrig llyfnion o’r afon, ac a’u gosododd hwynt yng nghod y bugeiliaid yr hon oedd ganddo, sef yn yr ysgrepan: a’i ffon dafl oedd yn ei law: ac efe a nesaodd at y Philistiad.
Rhanna
Darllen 1 Samuel 17