1 Samuel 18:7-8
1 Samuel 18:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wrth ddathlu’n frwd roedden nhw’n canu fel hyn: “Mae Saul wedi lladd miloedd, ond Dafydd ddegau o filoedd!” Doedd Saul ddim yn hapus o gwbl am y peth. Roedd wedi gwylltio. “Maen nhw’n rhoi degau o filoedd i Dafydd, a dim ond miloedd i mi,” meddai. “Peth nesa, byddan nhw eisiau’i wneud e’n frenin!”
1 Samuel 18:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ac yn eu llawenydd canodd y gwragedd: “Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiynau.” Digiodd Saul yn arw, a chafodd ei gythruddo gan y dywediad. Meddai, “Maent yn rhoi myrddiynau i Ddafydd, a dim ond miloedd i mi; beth yn rhagor sydd iddo ond y frenhiniaeth?”
1 Samuel 18:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn. A digiodd Saul yn ddirfawr, a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beth mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth?