1 Samuel 19:1-2
1 Samuel 19:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Saul yn cyfadde i’w fab Jonathan, a’i swyddogion i gyd, ei fod eisiau lladd Dafydd. Ond roedd Jonathan yn hoff iawn iawn o Dafydd. Felly dyma fe’n rhybuddio Dafydd, “Mae fy nhad Saul eisiau dy ladd di. Felly gwylia dy hun bore fory. Dos i guddio yn rhywle ac aros yno o’r golwg.
1 Samuel 19:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd Saul wrth ei fab Jonathan a'i holl weision am ladd Dafydd. Ond yr oedd Jonathan fab Saul wedi mynd yn hoff iawn o Ddafydd, a dywedodd wrtho, “Y mae fy nhad Saul yn ceisio dy ladd di; bydd di'n ofalus ohonot dy hun bore yfory, ac ymguddia ac aros o'r golwg.
1 Samuel 19:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Saul a ddywedodd wrth Jonathan ei fab, ac wrth ei holl weision, am ladd Dafydd. Ond Jonathan mab Saul oedd hoff iawn ganddo Dafydd. A mynegodd Jonathan i Dafydd, gan ddywedyd, Saul fy nhad sydd yn ceisio dy ladd di: ac yn awr ymgadw, atolwg, hyd y bore, ac aros mewn lle dirgel, ac ymguddia