1 Samuel 20:42
1 Samuel 20:42 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ac meddai Jonathan wrth Ddafydd, “Dos mewn heddwch; yr ydym ein dau wedi tyngu yn enw'r ARGLWYDD y bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom ni a rhwng ein disgynyddion am byth.” Yna aeth Dafydd i ffwrdd, a dychwelodd Jonathan adref.
1 Samuel 20:42 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd Jonathan wrth Dafydd, “Bendith arnat ti! Dŷn ni’n dau wedi gwneud addewid i’n gilydd o flaen yr ARGLWYDD. Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yn siŵr ein bod ni a’n plant yn cadw’r addewid yna.” Felly dyma Dafydd yn mynd i ffwrdd, ac aeth Jonathan yn ôl adre.
1 Samuel 20:42 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dos mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a’th had dithau, safed hynny yn dragywydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i’r ddinas.