1 Samuel 24:1-17
1 Samuel 24:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ddaeth Saul yn ôl o ymlid y Philistiaid, dywedwyd wrtho fod Dafydd yn niffeithwch En-gedi. Felly cymerodd Saul dair mil o wŷr wedi eu dewis allan o Israel gyfan, a mynd i chwilio am Ddafydd a'i wŷr ar hyd copa creigiau'r geifr gwylltion. Pan ddaeth at gorlannau'r defaid ar y ffordd, yr oedd yno ogof, ac aeth Saul i mewn i esmwytho'i gorff; ond yr oedd Dafydd a'i wŷr yno ym mhen draw'r ogof. Ac meddai gwŷr Dafydd wrtho, “Dyma'r diwrnod y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt y byddai'n rhoi dy elyn yn dy law, a chei wneud iddo beth a fynni.” Cododd Dafydd yn ddistaw a thorrodd gwr y fantell oedd am Saul. Ond wedyn pigodd cydwybod Dafydd ef, am iddo dorri cwr mantell Saul, a dywedodd wrth ei ddynion, “Yr ARGLWYDD a'm gwared rhag imi wneud y fath beth i'm harglwydd, eneiniog yr ARGLWYDD, ac estyn llaw yn ei erbyn, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.” Ataliodd Dafydd ei wŷr â'r geiriau hyn rhag iddynt ymosod ar Saul. Pan ymadawodd Saul â'r ogof a mynd i'w daith, aeth Dafydd allan o'r ogof a galw ar ei ôl a dweud, “F'arglwydd frenin!” A phan edrychodd Saul yn ôl, plygodd Dafydd â'i wyneb at y llawr ac ymgrymu. Yna dywedodd Dafydd wrth Saul, “Pam y gwrandewaist ar eiriau'r dynion sy'n dweud fod Dafydd yn ceisio niwed i ti? Heddiw fe weli â'th lygaid dy hun i'r ARGLWYDD dy roi yn fy llaw heddiw yn yr ogof; a dywedwyd wrthyf am dy ladd, ond trugarheais wrthyt a dweud, ‘Nid estynnaf fy llaw yn erbyn f'arglwydd, oherwydd eneiniog yr ARGLWYDD yw.’ Edrych, fy nhad, ie, edrych, dyma gwr dy fantell yn fy llaw. Gan imi dorri cwr dy fantell heb dy ladd, fe ddylit wybod a gweld nad oedd dim malais na gwrthryfel ynof. Ni wneuthum gam â thi, ond eto yr wyt yn ymlid ar fy ôl i'm dal. Bydded i'r ARGLWYDD farnu rhyngom a dial arnat, ond ni fydd fy llaw i arnat. Fel y dywed yr hen ddihareb, ‘O'r drygionus y daw drygioni.’ Ond ni fydd fy llaw i arnat. Ar ôl pwy yr aeth brenin Israel? Pwy wyt ti'n ei ymlid? Ci marw! Chwannen! Fe gaiff yr ARGLWYDD fod yn ddyfarnwr a barnu rhyngom a'n gilydd; caiff ef chwilio a dadlau f'achos a'm rhyddhau o'th law.” Wedi i Ddafydd orffen llefaru fel hyn wrth Saul, meddai Saul: “Dafydd, fy mab, ai dy lais di yw hwn?” Yna fe dorrodd allan i wylo. Ac meddai wrth Ddafydd, “Yr wyt ti yn fwy cyfiawn na mi, oherwydd yr wyt ti wedi talu da i mi, a minnau wedi talu drwg i ti.
1 Samuel 24:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan ddaeth Saul yn ôl ar ôl bod yn ymladd yn erbyn y Philistiaid dyma nhw’n dweud wrtho fod Dafydd yn anialwch En-gedi. Dewisodd Saul dair mil o filwyr gorau Israel, a mynd i Greigiau’r Geifr Gwyllt i chwilio am Dafydd. Ar y ffordd, wrth ymyl corlannau’r defaid, roedd yna ogof. Roedd Saul eisiau mynd i’r tŷ bach, felly aeth i mewn i’r ogof. Roedd Dafydd a’i ddynion yn cuddio ym mhen draw’r ogof ar y pryd. A dyma’r dynion yn dweud wrth Dafydd, “Dyma ti’r diwrnod y dwedodd yr ARGLWYDD wrthot ti amdano, ‘Bydda i’n rhoi dy elyn yn dy afael, a chei wneud fel y mynni gydag e.’” A dyma Dafydd yn mynd draw yn ddistaw bach, a thorri cornel clogyn Saul i ffwrdd. Ond wedyn roedd ei gydwybod yn ei boeni am ei fod wedi torri cornel y clogyn. Meddai wrth ei ddynion, “Ddylwn i ddim bod wedi gwneud y fath beth. Sut allwn i wneud dim yn erbyn fy meistr? Fe ydy’r brenin wedi’i eneinio gan yr ARGLWYDD.” A dyma Dafydd yn rhwystro ei ddynion rhag ymosod ar Saul. Felly dyma Saul yn mynd allan o’r ogof ac ymlaen ar ei ffordd. Yna dyma Dafydd yn mynd allan a gweiddi ar ei ôl, “Fy mrenin! Meistr!” Trodd Saul rownd i edrych, a dyma Dafydd yn ymgrymu iddo â’i wyneb ar lawr. Wedyn dyma Dafydd yn gofyn i Saul, “Pam wyt ti’n gwrando ar y straeon fy mod i eisiau gwneud niwed i ti? Ti wedi gweld drosot dy hun heddiw fod Duw wedi dy roi di yn fy ngafael i pan oeddet ti’n yr ogof. Roedd rhai yn annog fi i dy ladd di, ond wnes i ddim codi llaw yn erbyn fy meistr. Ti ydy’r un mae’r ARGLWYDD wedi’i eneinio’n frenin! Edrych, syr. Ie, edrych – dyma gornel dy glogyn di yn fy llaw i. Gwnes i dorri cornel dy glogyn, ond wnes i ddim dy ladd di. Dw i eisiau i ti ddeall nad ydw i’n gwrthryfela nac yn bwriadu dim drwg i ti. Dw i ddim wedi gwneud cam â thi er dy fod ti ar fy ôl i ac yn ceisio fy lladd i. Caiff yr ARGLWYDD farnu rhyngon ni’n dau. Caiff e ddial arnat ti, ond wna i ddim dy gyffwrdd. Fel mae’r hen ddihareb yn dweud, ‘O’r rhai drwg y daw drygioni.’ Wna i ddim drwg i ti. Ar ôl pwy mae brenin Israel wedi dod allan? Pwy wyt ti’n ceisio’i ddal? Dw i’n neb. Ci marw ydw i! Chwannen! Boed i’r ARGLWYDD farnu rhyngon ni’n dau. Bydd e’n ystyried yr achos ac yn dadlau o’m plaid i. Bydd e’n fy achub i o dy afael di!” Ar ôl i Dafydd ddweud hyn, dyma Saul yn ei ateb, “Ai ti sydd yna go iawn, Dafydd, machgen i?” A dyma fe’n dechrau crio’n uchel. Yna dyma fe’n dweud, “Ti’n well dyn na fi. Ti wedi bod yn dda ata i er fy mod i wedi ceisio gwneud drwg i ti.
1 Samuel 24:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En-gedi. Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel; ac efe a aeth i geisio Dafydd a’i wŷr, ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion. Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof. A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel. Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul. Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr ARGLWYDD i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, eneiniog yr ARGLWYDD, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr ARGLWYDD yw efe. Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â’r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o’r ogof, ac a aeth i ffordd. Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o’i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear, ac a ymgrymodd. A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti? Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r ARGLWYDD dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a’th arbedodd di: a dywedais, Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr; canys eneiniog yr ARGLWYDD yw efe. Fy nhad hefyd, gwêl, ie gwêl gwr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ymaith gwr dy fantell di, heb dy ladd; gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i’th erbyn: eto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i’w dala hi. Barned yr ARGLWYDD rhyngof fi a thithau, a dialed yr ARGLWYDD fi arnat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. Megis y dywed yr hen ddihareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ôl ci marw, ar ôl chwannen. Am hynny bydded yr ARGLWYDD yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o’th law di. A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg.