1 Samuel 5:3-4
1 Samuel 5:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bore trannoeth, pan gododd pobl Ashdod, roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb o flaen Arch Duw. Felly dyma nhw yn ei godi a’i osod yn ôl yn ei le. Ond pan godon nhw’n gynnar y bore wedyn roedd Dagon wedi syrthio ar ei wyneb eto o flaen Arch Duw. Roedd ei ben a’i ddwy law wedi’u torri i ffwrdd, ac yn gorwedd wrth y drws. Dim ond corff Dagon oedd yn un darn.
1 Samuel 5:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD. A hwy a gymerasant Dagon, ac a’i gosodasant eilwaith yn ei le. Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr ARGLWYDD: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef.
1 Samuel 5:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan gododd yr Asdodiaid fore trannoeth, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD. Yna codasant Dagon, a'i roi'n ôl yn ei le. Bore trannoeth, wedi iddynt godi, gwelsant Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr ARGLWYDD, a phen a dwy law Dagon ar y trothwy wedi eu torri i ffwrdd, a dim ond corff Dagon ar ôl ganddo.