1 Samuel 8:5-6
1 Samuel 8:5-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd. A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr ARGLWYDD.
1 Samuel 8:5-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Medden nhw wrtho, “Ti’n mynd yn hen a dydy dy feibion ddim yn dilyn dy esiampl di. Felly gad i ni gael brenin i’n harwain, yr un fath â’r gwledydd eraill i gyd.” Doedd y cais yma am frenin ddim yn plesio Samuel o gwbl. Felly dyma fe’n gweddïo ar yr ARGLWYDD.
1 Samuel 8:5-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
a dweud wrtho, “Yr wyt ti wedi mynd yn hen, ac nid yw dy feibion yn cerdded yn dy lwybrau di; rho inni'n awr frenin i'n barnu, yr un fath â'r holl genhedloedd.” Gofidiodd Samuel eu bod yn dweud, “Rho inni frenin i'n barnu”, a gweddïodd Samuel ar yr ARGLWYDD.